Llifogydd – Cynllun Wardeiniaid Llifogydd
Mae Cynghorwyr a gwirfoddolwyr Llangatwg yn gweithio i wneud ein cymuned yn fwy diogel os bydd llifogydd. Mae achosion diweddar o lifogydd difrifol, gan gynnwys Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, wedi dangos yr angen i fod yn barod am lifogydd ac i allu ymateb os yw’r gwaethaf yn digwydd.
Mae’r Cyngor Cymuned wedi sefydlu gweithgor i ymchwilio i'r heriau sy’n wynebu trigolion Llangatwg yn ystod llifogydd, i adnabod yr eiddo sydd fwyaf agored i niwed ac i roi gwybodaeth i berchnogion fel y gallan nhw ddiogelu eu cartrefi. Mae pobl fregus eisoes wedi derbyn ‘pecynnau llifogydd’ Cyngor Sir Powys gyda gwybodaeth ynglŷn â sut i baratoi a phwy i gysylltu mewn argyfwng.
Mae tri aelod o Gyngor Cymuned Llangatwg wedi ymuno â Chynllun Wardeiniaid Llifogydd Crughywel a’r Pentrefi Cyfagos, a sefydlwyd ar ôl Storm Dennis. Mae gwirfoddolwyr wedi ymuno â nhw a fydd yn helpu i rybuddio trigolion, rhoi gwybodaeth a symud celfi rhag niwed os oes angen. Ar adegau eraill, bydd Wardeiniaid Llifogydd yn cadw llygad am beryglon posib, ac yn cysylltu â’r awdurdodau perthnasol os yw dreiniau neu gwlfertau wedi’u blocio gan goed neu falurion sydd wedi disgyn.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth am Weithgor Llifogydd Cyngor Cymuned Llangatwg, e-bostiwch llangattockcc@gmail.com.
Gwybodaeth i Breswylwyr a Busnesau
Os ydych mewn perygl neu os ydych yn wynebu argyfwng arall: ffoniwch 999
Pan fydd risg uchel o lifogydd neu achos o lifogydd yn digwydd, byddwch yn gallu cysylltu â’r wardeiniaid llifogydd ar y rhifau a ddarparwyd, neu byddan nhw mewn cysylltiad â chi.
Neu cysylltwch â’r cynllun wardeiniaid llifogydd drwy swyddfa gwirfoddolwyr CRiC ar 01873 812177 yn ogystal â’r cyfeiriad
e-bost crickresponse@gmail.com unrhyw bryd.
Byddwn hefyd yn postio diweddariadau ynglŷn â llifogydd a’r risg o lifogydd ar dudalen Facebook Crickhowell and Villages Flood Response
Gallwch hefyd ofyn i’ch warden llifogydd os hoffech dderbyn diweddariadau rheolaidd am y risg presennol o lifogydd drwy WhatsApp, e-bost neu neges destun.
Mae wardeiniaid llifogydd yn wirfoddolwyr sydd ar gael i’ch cefnogi i:
- baratoi am lifogydd
- ymateb i lifogydd sydd ar fin digwydd
- gweithredu yn ystod llifogydd
- adfer ar ôl llifogydd
Nod y cynllun wardeiniaid llifogydd yw sicrhau bod pawb yn eich cartref yn ddiogel a bod unrhyw ddifrod llifogydd i'ch eiddo yn cael ei leihau.
Beth sydd angen i chi ei wneud:
- penderfynwch sut rydych am dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y perygl o lifogydd (gallwn ni eich diweddaru chi os gofynnwch i ni wneud hynny)
- cael cynllun ar gyfer yr hyn y byddwch yn ei wneud os oes perygl o lifogydd a/neu lifogydd go iawn
- cael cynllun i symud dodrefn neu gael bagiau tywod os oes angen (efallai y gallwn helpu os na allwch chi drefnu hyn eich hun)
GALL wardeiniaid llifogydd:
- eich helpu i gadw nentydd a chwlfertau wrth ymyl eich cartref yn glir os na allwch chi wneud hynny (ar yr amod nad ydyn nhw’n rhedeg yn gyflym neu'n ddwfn)
- cysylltu â chi os oes peryg o lifogydd (bydd angen i chi ddweud wrthym eich bod am i ni wneud hynny)
- cadw mewn cysylltiad â chi yn ystod llifogydd os byddwch yn dweud wrthym eich bod eisiau i ni wneud hynny
- os byddwch angen mwy o gymorth yn ystod llifogydd
- rhoi cyngor i chi ble gallwch gael bagiau tywod
- cludo bagiau tywod hefyd - ond dim ond os nad ydyn nhw’n brysur yn rhywle arall ac os na allwch eu casglu a bod y ffyrdd yn glir
- rhoi cyngor i chi am eich cynlluniau llifogydd
- gweithio gyda chi i gadw llygad ar nentydd, cwlfertau, draeniau ac ati a allai achosi llifogydd
- cefnogi'r awdurdod lleol os ydyn nhw’n cau ffyrdd
- cefnogi'r awdurdod lleol os ydyn nhw’n agor Canolfan Orffwys yng Nghrughywel (Ysgol Uwchradd) neu Eglwys Llangatwg (Sant Catwg)
NI ALL wardeiniaid llifogydd:
- Stopio llifogydd
- Eich achub os ydych mewn peryg (dylech alw 999)
- Clirio gylïau a nentydd tra bod eu llif yn llawn oherwydd bod hyn yn beryglus
- Mynd i mewn i lifddwr
Rhybuddion Llifogydd (Floodline): 0345 9881188
Llinell Gymorth Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru: 0300 065 3000