Mae Llangatwg wedi’i amgylchynu gan olygfeydd godidog o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda Phen-y-fâl yn dominyddu'r olygfa ar draws Dyffryn Wysg. Mae'r pentref yn swatio o dan greigiau calchfaen anferth a arferai gyflenwi'r Chwyldro Diwydiannol. Mae hanes yn amgylchynu Llangatwg, ond bellach mae’r gweithfeydd a’r clogwyni calch, Camlas hyfryd Sir Fynwy a Brycheiniog a’r cannoedd o filltiroedd o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn denu cerddwyr, cychwyr, beicwyr, dringwyr ac ogofäwyr o bell ac agos.
Mae cymuned Llangatwg yn gartref i tua 1,000 o bobl sy'n byw yn y pentref ei hun a’r pentrefi bach cyfagos - Hillside, Legar, Dardy a Ffawyddog. Mae yna faes hamdden gyda golygfeydd godidog o'r mynyddoedd, tafarn, bwyty a gwesty gyda chwrs golff a digon o lefydd i aros. Gallwch logi cychod i hwylio’r dyfrffyrdd, reidio ceffylau, heicio’r bryniau neu ddringo’r clogwyni calchfaen. Mae cannoedd o filltiroedd o lwybrau troed yn y Bannau gyda rhai dringfeydd egnïol ar hyd Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Os ydych chi eisiau edrych ar y golygfeydd yma, beth am eistedd ar un o'r meinciau yng Nghae Glebe sy'n eiddo i'r cyngor ac yn edrych dros Bont Crughywel. Mae tref Crughywel, â’i stryd fawr sydd wedi ennill gwobrau, wrth ymyl.
Os ydych chi am ddarganfod mwy am yr ardal yn gyffredinol, lle da i ddechrau yw'r wefan Deall Lleoedd Cymru neu ewch i’n tudalen hanes.
Os ydych chi'n byw yma, mae digon i'w wneud, gyda grwpiau gwirfoddol yn casglu sbwriel, rheoli coetiroedd, trin rhandiroedd, rhedeg, cadw'n heini, gwneud crefftau, gwau a llawer mwy. Mae’r gweithgareddau cymdeithasol yn troi o amgylch y maes hamdden sy'n eiddo i'r cyngor ac yn cael ei gynnal gan y cyngor yn ogystal â thafarn, bwyty a gwesty'r pentref. Mae yna ysgol gynradd a neuadd gymunedol.
Mae'r Cyngor Cymuned eisiau adeiladu ar yr ysbryd cymunedol hwnnw, cefnogi ei drigolion a gweithio gyda gwirfoddolwyr i wneud Llangatwg yn lle hyd yn oed yn well i fyw neu i ymweld ag ef.