Mae gan Langatwg 10 o Gynghorwyr. Maen nhw’n drigolion sy’n poeni am y pentref ac eisiau ei helpu i ffynnu fel cymuned fywiog mewn rhan hyfryd o Gymru.
Maen nhw i gyd yn cynrychioli Pentref Llangatwg, Dardy, Legar, Ffawyddog a Hillside yn gyfartal; nid oes gan y cyngor system wardiau.
Mae cynghorwyr yn gofalu am rai asedau cymunedol pwysig, gan gynnwys y maes hamdden a'r fynwent yng nghanol y pentref.
Caiff gwaith y Cyngor ei gefnogi gan y Clerc, sy'n gweithio'n rhan amser, a chontractwyr (nifer ohonyn nhw’n lleol) sy'n cael eu cyflogi i wneud y gwaith.
Daw incwm y cyngor o ran o’r dreth gyngor a elwir yn praesept (tua £16 y flwyddyn fesul person neu £35 fesul aelwyd band D), o rentu tir a ffioedd claddu.
Nid yw'r Cyngor Cymuned yn gyfrifol am yr holl wasanaethau cyhoeddus yn Llangatwg ond gall y Cyngor fod yn llais i drigolion lleol ac i gynrychioli eu barn i ddarparwyr gwasanaethau. I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen Beth a wnawn.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ble i gael help ar ein tudalen Cymorth.
Os oes gennych gwestiwn i'r cyngor, defnyddiwch y dudalen Cysylltu. Os ydych am siarad â chynghorydd unigol, gallwch ddod o hyd i'w manylion ar y dudalen Pwyllgor.
Gyda rhybudd ac os cânt eu gwahodd, gall trigolion annerch cyfarfodydd y cyngor, sy’n cael eu cynnal ar y trydydd dydd Mawrth ym mhob mis, ond sy'n cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd. Gellir gweld dyddiadau, agendâu a chofnodion pwysig ar ein tudalen Cyfarfodydd.
Rydym yn gwerthfawrogi barn trigolion lleol ac rydym wastad yn hapus i glywed wrthoch chi.