Mae Cyngor Cymuned Llangatwg yn uniongyrchol gyfrifol am y maes hamdden, y fynwent, y maes parcio wrth ymyl Eglwys Llangatwg a nifer o feinciau a hysbysfyrddau o gwmpas y pentref. Gallwn hefyd ysgogi newid a hyrwyddo grwpiau gwirfoddol sy'n ceisio gwneud Llangatwg yn lle gwell i fod. Mae gan y Cyngor Cymuned gyllid cyfyngedig, ond rhoddir peth ohono o'r neilltu i gefnogi grwpiau cymunedol. Yn olaf, pan fo hynny'n briodol, gallwn fod yn llais i'n cymuned ar faterion sy'n peri pryder a chynrychioli barn trigolion i ddarparwyr gwasanaethau eraill.
Mae’r Cyngor hwn yn:
Cynghorwyr:
Gwrando ac Atebolrwydd:
Mae'r Cyngor yn berchen ar y canlynol ac yn eu cynnal a’u cadw:
Mae’r Cyngor yn berchen ar:
Nid yw Cyngor Cymuned Llangatwg yn uniongyrchol gyfrifol am:
Mae’r holl wasanaethau sy’n cael eu rhestru uchod yn gyfrifoldeb naill ai Cyngor Sir Powys neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (materion cynllunio).
Dyma ddolenni i’w gwefannau:
Ffyrdd, Trafnidiaeth a Rheoli Traffig - Cyngor Sir Powys
Gorfodi Cyflymder - Heddlu Dyfed Powys
Ceisiadau Cynllunio a Gorfodi - Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Gwasanaethau Cymdeithasol - Cyngor Sir Powys
Plismona - Heddlu Dyfed Powys
Biniau, Sbwriel ac Ailgylchu - Cyngor Sir Powys
Bydd Cyngor Cymuned Llangatwg yn lleisio pryderon trigolion gyda’r cyrff hyn naill ai’n uniongyrchol neu drwy Gynghorydd Sir Llangatwg os, yn ein barn ni, dyma'r peth mwyaf priodol ac effeithiol i'w wneud.
Cynrychiolydd etholedig Llangatwg ar Gyngor Sir Powys yw’r Cynghorydd Jackie Charlton, a gellir cysylltu â hi ar cllr.jackie.charlton@powys.gov.uk neu ar ei thudalen Facebook. Mae’r Cynghorydd Charlton hefyd yn cynnal cymhorthfa reolaidd lle gallwch siarad â hi'n uniongyrchol. Gweler ein tudalen ddigwyddiadau am ddyddiadau.
Councillors
Gallwch weld pwy yw'r Cynghorwyr drwy ymweld â thudalen y Cynghorwyr.
Cyfarfodydd
Gallwch ddod o hyd i gofnodion ac agendâu ar gyfer ein cyfarfodydd, yn Saesneg, ar ein tudalen cyfarfodydd.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd a’r wasg ddod i unrhyw un o gyfarfodydd y Cyngor Cymuned neu ei Bwyllgorau, er bod achlysuron pan fydd yn rhaid i gyfarfodydd gynnal sesiwn breifat wrth ddelio â materion o natur gyfrinachol.
Nid oes gennych hawl i siarad mewn cyfarfod oni bai eich bod yn cael eich gwahodd i wneud hynny gan y Cyngor. Os ydych yn dymuno siarad yna mae'n rhaid i chi gysylltu â'r Clerc ymlaen llaw neu i wneud eich hun yn hysbys i'r Clerc ar ddechrau'r cyfarfod.
Cysylltu
Os ydych eisiau cysylltu â Chyngor Cymuned Llangatwg, gallwch gysylltu â’r Clerc, Kay Bailey,
ar e-bost llangattockcc@gmail.com neu drwy ffonio 01873 598067.