Os oes gennych chi argyfwng lle mae eich bywyd chi neu rywun arall yn y fantol, ffoniwch 999 ar unwaith.

Os yw eich sefyllfa'n llai bygythiol ond bod angen gwybodaeth neu gyngor arnoch chi, cliciwch ar y botwm du isod.

Argyfyngau

Mae Cyngor Cymuned Llangatwg yn gyfrifol yn uniongyrchol am y maes hamdden, y fynwent, y maes parcio wrth ymyl Eglwys Llangatwg a nifer o feinciau a hysbysfyrddau o amgylch y pentref. Gallwn hefyd fod yn sbardun ar gyfer newid a hyrwyddo grwpiau gwirfoddol sy'n ceisio gwneud Llangatwg yn lle gwell i fyw. Arian cyfyngedig sydd gan y Cyngor Cymuned, ond mae rhywfaint ohono yn cael ei neilltuo i gefnogi grwpiau cymunedol. I gloi, lle bo'n briodol, gallwn fod yn llais i'n cymuned ar faterion sydd o bryder a chynrychioli barn trigolion i ddarparwyr gwasanaethau eraill.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy ynglŷn â Beth a Wnawn. Ar ôl ei ddarllen, os oes angen i chi gysylltu ag unrhyw un o’r cynghorwyr cymuned, gellir dod o hyd i’w manylion ar dudalen y cynghorwyr neu ar unrhyw un o’r chwe hysbysfwrdd o amgylch y gymuned.

Fel arall, gallwch gysylltu â’r Clerc, Kay Bailey, drwy e-bostio llangattockcc@gmail.com

Dyma restr o ddarparwyr gwasanaethau a’r meysydd y maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw, gyda dolenni i’w gwefannau:

Roads, Transport and Traffic Management - Powys County Council
Speed Enforcement - Dyfed Powys Police
Planning Applications and Enforcement - Brecon Beacons National Park Authority
Social Services - Powys County Council
Policing - Dyfed Powys Police
Bins, Rubbish and Recycling - Powys County Council
Environment

Ni chaniateir cŵn ar Faes Hamdden Llangatwg, oherwydd bod plant bach yn chwarae yno. Gall baw cŵn gario afiechydon, ac mae ofn cŵn ar rai plant. Yr unig eithriad yw cŵn cymorth, a ddylai gael eu cadw ar dennyn bob amser.

Gofynnwn â pharch i berchnogion cŵn gadw eu hanifeiliaid ar dennyn wrth iddyn nhw gerdded drwy Gae Glebe, sy’n berchen i’r cyngor, ac sy’n arwain i Grughywel ac oddi yno. Mae hwn yn dir pori ar gyfer da byw, a gall baw cŵn fod yn niweidiol iddyn nhw. Hyd yn oed os nad oes da byw yn bresennol, gall parasitiaid o faw cŵn aros yn y pridd am flynyddoedd ac achosi i dda byw erthylu eu rhai bach.

Os ydych chi eisiau riportio achosion o faeddu cŵn yn Llangatwg, cliciwch fan hyn

Cynrychiolydd etholedig Llangatwg ar Gyngor Sir Powys yw'r Cynghorydd Jackie Charlton. Gellir cysylltu â hi ar
e-bost  cllr.jackie.charlton@powys.gov.uk  
neu ei thudalen Facebook.

Mae’r Cynghorydd Charlton hefyd yn cynnal cymorthfeydd misol lle gallwch siarad â hi yn uniongyrchol. Gweler ein tudalen newyddion am ddyddiadau.

I gael gwybodaeth am ble i gael cymorth yn ystod yr argyfwng costau byw, cliciwch ar y ddelwedd isod:

Dyma restr o fudiadau gwirfoddol a allai helpu hefyd:

Canolfan Wirfoddoli Crughywel

01873 812177

Cyngor ar Bopeth Powys

0345 601 8421

Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel, sy’n rhoi gwybodaeth i ymwelwyr a phobl leol

01873 812105

Credu Powys Gofalwyr Ifanc ac Oedolion

A friendly, vibrant, forward-thinking village in the South East corner of the county of Powys. We are surrounded by the stunning scenery of the Brecon Beacons National Park. 
Keep up to date
Please enter your email to receive newsletters and updates from Llangattock Community Council. This also gives us permission to use your contact details to keep in touch. For more information about how we will use this your information, see our terms and conditions at the bottom of this page.

Please select the ways you are happy to hear from Llangattock Community Council:

Click for more information

You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails. For information about our privacy practices, please visit our website.

We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.

Llangattockcc@gmail.com
Follow us on Facebook