Toriad yn y pŵer
Pan fydd y tywydd yn braf, mae’n hawdd peidio â meddwl am baratoi ar gyfer stormydd. Ond gall meddwl ymlaen llaw roi tawelwch meddwl i chi pan fydd y tywydd yn troi'n fygythiol.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am doriadau yn y pŵer sy’n lleol i chi, a phwy i gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth ewch i:
https://powercuts.nationalgrid.co.uk/
- Cadwch dortsh wrth law.
- Ceisiwch osgoi defnyddio canhwyllau a gwresogyddion paraffin.
- Cadwch radio wedi’i weindio/batri/ solar yn barod fel y gallwch wrando ar ddiweddariadau radio lleol.
- Nid yw llawer o ffonau modern, yn enwedig rhai digidol neu ffonau diwifr, yn gweithio pa fydd toriad yn y pŵer.
Cadwch un analog cyffredin wrth law. - Diogelwch offer trydanol sensitif fel cyfrifiaduron gyda phlwg amddiffyn rhag ymchwydd.
Mae gan Western Power Distribution Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth fel eu bod yn ymwybodol o anghenion preswylwyr ac yn gallu eu cynghori yn unol â hynny.
Os oes unrhyw un yn eich cymuned yn fregus, cofrestrwch yn https://www.nationalgrid.co.uk/customers-and-community/priority-services
Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y cwmni pŵer yn gwybod nad oes gennych unrhyw bŵer. Ffoniwch nhw cyn gynted â phosib. Os ydyn nhw’n gwybod am y broblem yn barod, dylen nhw allu dweud wrthych pryd maen nhw’n disgwyl i'ch trydan gael ei adfer. Ffoniwch 105.
Rhifau ffôn defnyddiol mewn argyfwng
Rhybuddion Llifogydd | 0345 9881188 |
---|---|
Llinell gymorth Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru | 0300 065 3000 |
Cyngor Sir Powys Tu Allan i Oriau | 03450 544 847 |
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | 0370 6060699 |
Heddlu Dyfed Powys | 101 - Achosion sydd Ddim yn Argyfwng 999 - Gwasanaethau Argyfwng |
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru | 01792 562900 |
Dŵr Cymru/Welsh Water | 0800 0520130 |
Western Power | 0800 6783105 or 105 |
British Gas | 0800 111999 |
British Telecom | 0800 800150 |