1 February 2024

Tonnau Gwres

Llun: Tim Jones

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n croesawu tywydd poeth, ond pan mae’n boeth iawn, mae yna beryglon iechyd. Mae pobl ifanc iawn, a'r henoed mewn perygl arbennig. Gall tywydd poeth iawn waethygu problemau'r galon ac anadlu.

Mae gan y Swyddfa Dywydd system rybuddio sy’n cyhoeddi rhybuddion os oes ton wres yn debygol. Mae’r cyngor canlynol yn berthnasol i bawb o ran cadw’n oer ac yn gyfforddus a lleihau peryglon iechyd:

  • Cadwch lygad am rybuddion ar y radio, y teledu a chyngor ar gadw'n oer.
  • Ffoniwch neu ewch i ymweld â phobl sy'n llai abl i ofalu amdanyn nhw eu hunain, fel cymdogion, perthnasau a ffrindiau hŷn, a phobl sydd â chyflyrau iechyd neu broblemau symudedd.
  • Caewch y ffenestri a thynnwch y bleindiau pan fydd hi'n boethach y tu allan. Os yw'n ddiogel, agorwch nhw am aer pan fydd yn oerach.
  • Osgowch y gwres: arhoswch allan o’r haul a pheidiwch â mynd allan rhwng 11am a 3pm (rhan boethaf y dydd).
  • Cadwch ystafelloedd yn oer drwy ddefnyddio deunydd adlewyrchol y tu allan i'r ffenestri. Os nad yw hyn yn bosib, defnyddiwch lenni lliw golau a’u cadw ar gau (gall bleindiau metelaidd a llenni tywyll wneud yr ystafell yn boethach).
  • Cymerwch fath neu gawod oer, a sblasio eich hun â dŵr oer.
  • Yfwch ddiodydd oer yn rheolaidd, fel dŵr a sudd ffrwythau. Osgowch te, coffi ac alcohol.
  • Os byddwch yn mynd allan, gwisgwch sbectol haul, het a dillad llac, golau, addas a defnyddiwch eli haul.

 

Cyngor Tymhorol y Swyddfa Dywydd:  https://www.metoffice.gov.uk/weather/warnings-and-advice/seasonal-advice

Cyngor y GIG ar gyfer gorludded gwres a thrawiad gwres : https://www.nhs.uk/conditions/heat-exhaustion-heatstroke/

Cyngor y GIG am eli haul a diogelwch yn yr haul: https://www.nhs.uk/live-well/seasonal-health/sunscreen-and-sun-safety/

AGE UK – sut i gadw’n oer mewn ton wres: https://www.ageuk.org.uk/information-advice/health-wellbeing/mind-body/staying-cool-in-a-heatwave/

Cyngor y Swyddfa Dywydd ar gyfer llosg haul: https://www.metoffice.gov.uk/weather/warnings-and-advice/seasonal-advice/health-wellbeing/uv/sunburn

UV ac Iechyd yr Haul: https://www.metoffice.gov.uk/weather/warnings-and-advice/seasonal-advice/health-wellbeing/uv/uv-and-sun-health 

Sut gall UV effeithio ar eich llygaid: https://www.metoffice.gov.uk/weather/warnings-and-advice/seasonal-advice/health-wellbeing/uv/how-uv-can-affect-your-eyes

RHESTR WIRIO CURO’R GWRES

Bydd y rhestr wirio hon yn eich helpu i nodi a allai cartref fod mewn peryg o orboethi a sut i leihau'r risg hwn.

Er ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at y tywydd poeth, gall cartrefi weithiau orboethi (mynd yn anghyfforddus o boeth). Gall iechyd pawb fod mewn perygl yn ystod cyfnodau o dywydd poeth, ond mae rhai pobl yn arbennig o agored i niwed mewn gwres. Gall cartref poeth waethygu cyflyrau iechyd sy’n bodoli’n barod, a gall fod yn angheuol.

Cartrefi sy’n fwy tebygol o orboethi

Mae cartrefi sydd weithiau yn gallu gorboethi yn ystod tywydd cynhesach yn cynnwys:

  • fflatiau ar y llawr uchaf oherwydd bod gwres yn codi
  • cartrefi sydd â ffenestri'n agor ar un ochr i'r eiddo yn unig, oherwydd bod hyn yn golygu bod llai o awyru drwy'r cartref
  • cartrefi heb fawr o gysgod wrth yr haul naill ai’n allanol, er enghraifft, dim caeadau neu gysgod, neu'n fewnol, er enghraifft, dim llenni neu fleindiau
  • ffenestri mawr sy'n wynebu'r dwyrain, y gorllewin neu'r de nad oes ganddyn nhw gysgod rhag yr haul (er enghraifft caeadau allanol neu lenni a bleindiau mewnol)
  • cartrefi sydd wedi'u lleoli mewn ardal drefol adeiledig ddwys heb fawr o fannau gwyrdd gerllaw, oherwydd gall yr ardaloedd hyn brofi tymereddau poethach fyth
  • gall rhai cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n sylweddol neu gartrefi
    ynni-effeithlon gadw’r gwres i mewn. Mae gwneud cartrefi'n effeithlon o ran ynni yn dod â nifer o fuddion iechyd a manteision eraill, ond mae angen cymryd gofal i osgoi gorboethi yn yr haf
  • cartrefi ag offer effeithlonrwydd isel sy'n rhyddhau gwres gormodol, fel systemau dŵr poeth sydd wedi'u hinswleiddio'n wael
  • cartrefi lle ceir agoriad cyfyngedig ar y ffenestri, er enghraifft, os oes clicied  diogelwch wedi'i osod

Preswylwyr a all fod mewn mwy o berygl o salwch oherwydd gorboethi

Mae nifer o resymau pam gallai rhai pobl fod mewn mwy o beryg o fynd yn sâl mewn tywydd poeth, gan gynnwys:

  • pobl hŷn, yn enwedig 65 oed a throsodd (sylwer newid o’r canllawiau blaenorol, sef 75 oed a hŷn)
  • plant, yn enwedig 5 oed ac o dan 5 oed
  • pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain a/neu wedi'u hynysu'n gymdeithasol
  • pobl â chyflyrau iechyd hirdymor (yn enwedig problemau'r galon ac anadlu)
  • pobl sy’n cymryd meddyginiaethau penodol
  • pobl sydd angen cymorth eraill ar gyfer eu gweithgareddau arferol
  • pobl sy'n cael anhawster addasu eu hymddygiad mewn tywydd cynhesach (er enghraifft, oherwydd dementia, problemau iechyd meddwl neu ddefnyddio alcohol/cyffuriau adloniant)
  • pobl sydd gartref yn ystod rhan boethaf y dydd (er enghraifft, plant bach neu’r rhai  sy'n gweithio gartref)

Pethau y gallwch eu gwneud i baratoi eich cartref ar gyfer tywydd poeth

Rydyn ni’n aml yn cael rhywfaint o rybudd pan fydd cyfnod o dywydd poeth ar y gweill, ac mae wastad yn ddefnyddiol cynllunio ar ei gyfer bob haf. Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i baratoi ac i leihau’r risg y bydd eich cartref yn gorboethi yn ystod tywydd poeth:

  1. Ystyriwch osod bleindiau neu lenni mewnol, neu mae caeadau allanol, bleindiau rholio neu adlenni hefyd yn effeithiol iawn.
  2. Os oes gennych system awyru yn eich cartref, gwiriwch ei bod wedi’i throi ymlaen ac yn gweithredu yn y ‘modd haf’ os oes un.
  3. Gwiriwch fod oergelloedd, rhewgelloedd a gwyntyllau yn gweithio'n iawn, er enghraifft drwy wirio bod eich bwyd yn parhau i fod yn oer neu wedi’i rewi.
  4. Gwnewch yn siŵr y gellir storio meddyginiaethau yn unol â'r cyfarwyddiadau sydd ar y pecyn.
  5. Os ydych yn inswleiddio neu'n adnewyddu eich cartref, gofynnwch i'r gosodwyr am gyngor ynglŷn â lleihau gorboethi.
  6. Gall tyfu planhigion y tu allan roi cysgod, a all fod yn arbennig o ddefnyddiol o flaen ffenestri sy'n wynebu'r de, tra gall planhigion y tu mewn helpu i oeri'r aer.

Pethau y gallwch eu gwneud yn ystod tywydd poeth

Pan fydd tywydd poeth yn cyrraedd, mae yna nifer o gamau cyflym a hawdd y gallwn ni i gyd eu cymryd i leihau gwres yn y cartref:

  1. Os yn bosib, cysgodwch neu orchuddiwch y ffenestri.
  2. Agorwch ffenestri (pan mae'n ddiogel gwneud hynny) pan fydd yr aer yn teimlo'n oerach y tu allan, er enghraifft yn y nos, a cheisiwch gael aer i lifo drwy'r cartref.
  3. Defnyddiwch wyntyllau trydan os yw tymheredd yr aer yn is na 35°C, ond peidiwch ag anelu'r gwyntyll yn uniongyrchol at eich corff oherwydd gall hyn arwain at ddadhydradu.
  4. Gwiriwch fod eich gwres wedi'i ddiffodd.
  5. I leihau'r gwres sy’n cael ei gynhyrchu yn y cartref, diffoddwch y goleuadau a'r offer trydanol nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio, ac ystyriwch goginio ar adegau oerach o'r dydd.
  6. Symudwch i ran oerach o'r tŷ, yn enwedig i gysgu os yn bosib.
  7. Gall fod yn oerach y tu allan yn y cysgod neu mewn adeilad cyhoeddus (fel mannau addoli, llyfrgelloedd lleol, neu archfarchnadoedd) felly ystyriwch ymweld â’r rheini fel ffordd o oeri os gallwch chi deithio yno yn ddiogel heb roi eich hun mewn mwy o risg o'r gwres.

Awgrymiadau gwych i gadw eich anifeiliaid anwes yn ddiogel mewn tywydd poeth

Fel ni, mae ein hanifeiliaid anwes hefyd yn agored i broblemau a salwch sy’n ymwneud â gwres, ac mae gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain awgrymiadau gwych ar sut i gadw ein hanifeiliaid anwes yn ddiogel mewn tywydd poeth:

  • Gwnewch yn siŵr bod pob anifail anwes wastad yn gallu cael dŵr ffres i'w yfed, yn cael digon o aer, a chysgod rhag pelydrau uniongyrchol yr haul.
  • Peidiwch â gwneud ymarfer corff gyda chŵn yn ystod rhannau poethaf y dydd, yn enwedig anifeiliaid anwes hŷn, bridiau sydd â wynebau gwastad neu gŵn sydd â phroblemau hysbys ar y galon neu’r ysgyfaint. Cadwch at deithiau cerdded yn gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y nos.
  • Gwnewch y prawf tarmac pum eiliad cyn mynd â chi am dro; os yw’n teimlo’n rhy boeth i chi, mae’n rhy boeth i bawennau eich ci.
  • Rhewch boteli plastig o ddŵr a’u rhoi yng nghwt eich cwningen i’w helpu i gadw’n oer, ochr yn ochr â digon o ddŵr ffres hefyd. Mae niwlo clustiau cwningod yn ysgafn gyda dŵr oer hefyd yn ffordd effeithiol o helpu i'w hoeri os nad yw hyn yn achosi straen iddyn nhw. Gallwch roi cysgod ychwanegol i foch cwta a chwningod drwy orchuddio top y rhwyll wifrog gyda thywelion llaith.
  • Mae'n bosib y bydd rhai bridiau o gathod a chŵn, yn enwedig y rhai â ffwr ysgafnach neu liw ysgafnach, yn elwa o eli haul sy'n ddiogel i anifeiliaid anwes, yn enwedig ar flaenau eu clustiau, sy'n dueddol o losgi’n yr haul.
  • Meddyliwch am anifeiliaid gwyllt. Cadwch fowlenni o ddŵr allan ar gyfer bywyd gwyllt fel adar a draenogod.
  • Cadwch lygad am arwyddion cynnar o drawiad gwres, fel anadlu'n fyr a chyflym, anesmwythder a diffyg cydsymud.
  • Cysylltwch â milfeddyg ar unwaith os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich anifail anwes.
A friendly, vibrant, forward-thinking village in the South East corner of the county of Powys. We are surrounded by the stunning scenery of the Brecon Beacons National Park. 
Keep up to date
Please enter your email to receive newsletters and updates from Llangattock Community Council. This also gives us permission to use your contact details to keep in touch. For more information about how we will use this your information, see our terms and conditions at the bottom of this page.

Please select the ways you are happy to hear from Llangattock Community Council:

Click for more information

You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails. For information about our privacy practices, please visit our website.

We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.

Llangattockcc@gmail.com
Follow us on Facebook