Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru:
Ymweliadau Diogel ac Iach
Mae Ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys holl gynnwys y gwiriadau diogelwch tân yn y cartref, ond bydd hefyd yn cynnwys negeseuon diogelwch eraill a allai fod yn berthnasol i'r bobl sy'n byw yn yr adeilad. Bydd y pum prif bwnc ychwanegol yn cwmpasu:
- Rhoi’r gorau i smygu
- Diogelwch yn y cartref
- Atal cwympiadau
- Ymwybyddiaeth o sgamiau
- Mynd i'r afael ag unigrwydd a theimlo’n ynysig
Gyda'r potensial i ychwanegu pynciau pellach dros amser.
Mwy o gyngor
Os hoffech fwy o gyngor, ffoniwch ni ar 0800 169 1234 i siarad am y posibilrwydd o Ymweliad Diogel ac Iach gan weithwyr y Gwasanaeth Tân ac Achub. Os oes gennych larwm diffygiol a osodwyd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, cysylltwch â 0800 169 1234 am un newydd, neu
e-bostiwch saw@mawwfire.gov.uk.
Mae darpariaeth larymau mwg ac eitemau diogelwch eraill yn y cartref gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael ei chefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru.
Mae eu gwefan yn llawn gwybodaeth wych, gan gynnwys diogelu eich cartref, coginio'n ddiogel, diogelwch canhwyllau, diogelwch trydanol, gwresogyddion cludadwy, nwyddau gwynion, diogelwch Carbon Monocsid, larymau mwg, simneiau a thanau agored a stofiau llosgi coed.
https://www.mawwfire.gov.uk/eng/your-safety/in-your-home/protecting-your-home/
Diogelwch tân ar y Fferm: https://www.mawwfire.gov.uk/eng/your-safety/farm-fire-safety/
Gwefan Llywodraeth Cymru, yn llawn cyngor: https://www.gov.wales/fire-rescue
TANAU GWYLLT
Effaith
Mae effeithiau tanau gwyllt yn niferus ac yn eang. Gallan nhw gael effeithiau sylweddol ar yr economi, yr amgylchedd, treftadaeth a gwead cymdeithasol ardaloedd gwledig. Mae costau economaidd yn amrywio o gostau uniongyrchol sy’n gysylltiedig ag adnoddau brys, i golli incwm o’r tir yn dilyn achosion o danau gwyllt a difrod i eiddo. I'r diffoddwyr tân, gall fod yn anodd delio â thanau gwyllt mwy oherwydd y dirwedd a’r hygyrchedd. Weithiau, mae'r tymheredd eithafol a'r pellteroedd teithio hirach yn cario offer yn gwneud amodau gwaith hyd yn oed yn anoddach. Yn aml, gall hyn olygu bod criwiau niferus yn cael eu cadw dros nifer o ddiwrnodau sy'n golygu bod yn rhaid i beiriannau deithio ymhellach i gyrraedd argyfyngau eraill yn yr ardal yr effeithir arni.
Atal tanau bwriadol
Mae Atal Tanau Bwriadol yn dîm datrys problemau o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i geisio lleihau ac atal tanau rhag cael eu cynnau’n fwriadol. Mae’r tîm yn cynnwys Swyddog yr Heddlu sydd wedi’i secondio, Swyddog Tân a thri ymgynghorydd arbenigol ar danau bwriadol sy'n sicrhau bod pob achos yn cael ei ymchwilio a'i ddadansoddi i wneud ein cymunedau’n fwy diogel. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’i bartneriaid i dargedu meysydd problematig ac i ddatblygu ffyrdd o leihau tanau bwriadol ac i nodi pwy neu beth allai gael eu heffeithio.
Beth a wnawn
Mae’r Tîm Atal Tanau Bwriadol a’r Swyddog Cyswllt Fferm yn gweithio gyda thimau rheoli tir/ Cominwyr / Porwyr i gyflwyno Polisi Tanau Gwyllt – llosgi dan reolaeth (rhwng 1af Hydref a 31ain Mawrth) a chyflwyno cyfnodau atal byr. Rydyn ni’n cydlynu gyda phartneriaid i gynnal patrolau a gwyliadwriaeth mewn mannau problemus drwy ddefnyddio technoleg fel Cerbydau Awyr Di-griw (UAV) a Theledu Cylch Cyfyng (CCTV) i atal a chanfod troseddau.
Sut olwg sydd ar gynnau tân yn eich cymuned?
Rydyn ni wedi gweld bod tanau bwriadol nid yn unig yn dinistrio cartrefi a bywydau, ond gall ddinistrio'r amgylchedd. Mae lleihau tanau bwriadol yn helpu i ddiogelu’r llefydd rydyn ni’n byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn treulio ein hamser hamdden. Rydyn ni am warchod ein cymunedau rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â chynnau tanau, fel tipio anghyfreithlon, llosgi gwastraff peryglus neu anghyfreithlon a fandaliaeth o fewn ysgolion a cholegau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni hefyd wedi gweld cynnydd yn y bygythiad o danau bwriadol sy’n deillio o gam-drin domestig a thrais yn y cartref, a thrwy ein nodau ar y cyd, byddwn yn ymdrechu i nodi’r digwyddiadau hyn drwy ymwybyddiaeth ehangach o bob un o Bartneriaid y Grŵp Tanau Bwriadol ar y Cyd er mwyn dod â’r troseddwyr hyn o flaen eu gwell, tra ar yr un pryd, sicrhau bod ymateb effeithiol ar waith i gefnogi dioddefwyr trosedd o’r fath. Rydyn ni am sicrhau newid diwylliannol ledled Cymru fel bod cymunedau’n ystyried tanau bwriadol yn annerbyniol yn gymdeithasol a’u bod yn weithredol o ran cadernid cymunedol.
Cyngor Diogelwch i leihau peryglon Tanau Damweiniol
- Diffoddwch sigaréts a deunydd smygu arall yn iawn - peidiwch â gadael iddyn nhw gynnau tân glaswellt!
- Defnyddiwch farbeciw mewn mannau addas a diogel yn unig – PEIDIWCH BYTH â'u gadael heb neb i ofalu amdanyn nhw!
- Pan fyddwch yn cael barbeciw, cadwch fwced o ddŵr neu dywod gerllaw ar gyfer argyfyngau
- Cliriwch boteli, gwydrau ac unrhyw wydr sydd wedi’i dorri i'w hatal rhag mwyhau’r haul a chynnau tân
- Eglurwch beryglon chwarae gyda thanau a chynnau tanau i blant
- Gwaredwch ddeunyddiau smygu fel sigaréts yn ddiogel
I wneud yn siŵr y gallwn ymateb i’ch argyfyngau yn gyflym, rydyn ni angen i chi warchod eich cymuned rhag tanau bwriadol a riportio grwpiau sy’n ymgynnull yn wrthgymdeithasol. Mae cychwyn tân bwriadol yn drosedd a gallech gael cofnod troseddol o ganlyniad i gychwyn tân yn fwriadol.
Gallwch helpu drwy alw’r Heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 os welwch chi unrhyw un yn cynnau tanau’n fwriadol.
Mae Cynnau Tanau’n Fwriadol yn Drosedd.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Atal Tanau Bwriadol ar 01792 705 130
Os ydych yn dyst i rywun yn dechrau tân glaswellt yn fwriadol, galwch yr Heddlu ar 999 neu’n dod o hyd i dystiolaeth o leoliad tân glaswellt sydd wedi’i gynnau’n fwriadol, ffoniwch y Tîm Atal Tanau Bwriadol ar 0370 6060 699 neu e-bostiwch arson.reduction@mawwfire.gov.uk