Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Awdurdodau Lleol, gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill ffurfio Fforymau Lleol Cymru Gydnerth (yn seiliedig ar ardaloedd heddluoedd) i gynllunio ar y cyd ar gyfer argyfyngau, ymateb iddyn nhw ac adfer ar eu hôl.
Mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn bartneriaethau aml-asiantaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o ymatebwyr categori 1. Caiff Fforymau Lleol Cymru Gydnerth eu cefnogi gan ymatebwyr categori 2 ac maen nhw hefyd yn gweithio gyda’r sectorau milwrol a gwirfoddol. Mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn anelu at gynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau lleol ac argyfyngau trychinebus. Maen nhw’n gweithio i nodi risgiau posib ac yn creu cynlluniau brys i naill ai atal neu liniaru effaith unrhyw ddigwyddiad ar eu cymunedau lleol.
Serch hynny, bydd datblygu'r gallu i helpu ei gilydd ar lefel leol o gymorth os bydd y gwasanaethau brys yn cael eu gorlethu yn yr ymateb cychwynnol. Gallai hefyd leihau effaith yr argyfwng ar y gymuned.
Mae Fforwm Cydnerth Lleol Dyfed Powys yn cwmpasu siroedd Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys sy’n cadeirio’r prif grŵp. Mae amrywiaeth o grwpiau ac is-grwpiau yn adrodd i Fforwm Cydnerth Lleol Dyfed Powys a sefydlwyd i ymgymryd â gweithgareddau penodol. Caiff swyddogion o'r Awdurdodau Lleol eu cynrychioli ar bob un o'r grwpiau. Nid yw Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn gyrff statudol.
Asesiad Risg – Cofrestr Risgiau Cymunedol
Mae ymatebwyr Categori 1 a 2 wedi cynhyrchu cofrestr risgiau cymunedol sy'n cwmpasu ardal Dyfed Powys. Mae'r gofrestr yn rhestr o risgiau a allai achosi argyfwng yn ardal Dyfed Powys. Nid yw cynnwys risg ar gofrestr risg gymunedol yn golygu y bydd yn digwydd. Mae'n golygu ei fod yn cael ei gydnabod fel posibilrwydd a bod sefydliadau wedi gwneud trefniadau i gynllunio ar gyfer ymateb i'r digwyddiad ac i leihau ei effaith. Mae asesiadau risg Dyfed Powys yn cael eu diweddaru’n flynyddol, neu yn ôl yr angen os yn gynt, ac yn ystyried y ddau ganllaw cenedlaethol ynghyd â gwybodaeth ac arbenigedd lleol ar draws ein hardal. Yna rhoddir y wybodaeth hon i bartneriaid proffesiynol Fforwm Lleol Cymru Gydnerth i asesu, trafod a gweithredu er mwyn gwella ein gallu i ymateb i unrhyw fath o sialens sy’n tarfu.
Mae’r risgiau allweddol yn cynnwys:
Ffliw Pandemig
Llifogydd
Tywydd Garw
Colli seilwaith
Llygredd
Clefyd anifeiliaid
Digwyddiadau diwydiannol
Digwyddiadau trafnidiaeth
Cynllunio at Argyfyngau
Mae cynllunio at argyfyngau yn broses aml-asiantaeth gynhwysfawr i adnabod ac asesu risgiau perthnasol, i gynllunio a pharatoi, i hyfforddi ac ymarfer, i liniaru'r effeithiau ac ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau, pan fyddan nhw’n digwydd. Ymgymerir â chynllunio ar gyfer argyfwng ar lefel sirol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cynhyrchir cynlluniau ymateb brys ar lefel fforymau lleol Cymru gydnerth a phob asiantaeth i ddisgrifio trefniadau i ymateb i argyfyngau a/neu risgiau penodol fel yr amlinellir yn y gofrestr risgiau cymunedol. Mae swyddogion yn cael eu hyfforddi yng nghynnwys y cynlluniau a threfnir cyfres o ymarferion (aml-asiantaeth ac asiantaethau unigol) yn rheolaidd i brofi'r ymateb. Yn dilyn hyfforddiant, ymarferion a digwyddiadau, caiff cynlluniau eu hadolygu yn seiliedig ar adborth a gwersi a ddysgwyd er mwyn sicrhau bod yr ymateb i argyfyngau yn y dyfodol yn fwy effeithiol.
Parhad busnes
Mae parhad busnes yn ymwneud â chynllunio i liniaru effeithiau amhariad posib ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel y gellir parhau i’w darparu yn ystod argyfwng. Mae gan ymatebwyr Categori 1 ddyletswydd gyfreithiol i roi trefniadau parhad busnes ar waith ar gyfer eu sefydliad, gan rannu arfer gorau. Beth bynnag fo’r digwyddiad, dylai’r awdurdod lleol ymdrechu i’r graddau y mae’n rhesymol i “fusnes fel arfer” wrth ddarparu gwasanaethau a nodir yn ei Gynllun Parhad Busnes. Mae hyn hefyd yn cynnwys sicrhau bod cyflenwyr hanfodol yn dal i allu cyflenwi mewn argyfwng.
Rhybuddio a Llywio
Mae trefniadau yn eu lle ar sail aml-asiantaeth ac o fewn pob sefydliad i rybuddio, llywio a chynghori'r cyhoedd cyn ac yn ystod argyfwng. Mae dogfennau a dolenni wedi’u gosod ar wefannau awdurdodau lleol sy’n rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am gynllunio a pharodrwydd at argyfwng. Yn ystod digwyddiad, bydd yr awdurdod lleol yn gweithio gyda phartneriaid aml-asiantaeth perthnasol i sicrhau bod neges gyffredin yn cael ei lledaenu i'r cyhoedd a'r cyfryngau o ran yr ymateb a'i effaith. Bydd gan Aelodau Etholedig rôl i'w chwarae drwy weithredu fel cyswllt rhwng eu cymunedau a'r cyngor.
Cadernid Cymunedol
Yn ogystal â dyletswyddau statudol ffurfiol, ceir cydnabyddiaeth gynyddol bod angen i ymatebwyr (awdurdodau lleol yn arbennig) ddefnyddio adnoddau a galluoedd eu cymunedau fel rhan o’r broses o baratoi ac ymateb i argyfwng. Caiff ei alw’n gadernid cymunedol a gellir ei ddiffinio fel “cymunedau ac unigolion sy’n harneisio adnoddau ac arbenigedd i helpu eu hunain i baratoi ar gyfer argyfyngau, ymateb iddyn nhw ac adfer, mewn ffordd sy’n ategu gwaith yr ymatebwyr brys”. Gall Aelodau Etholedig chwarae rôl allweddol wrth annog cymunedau i ddod yn fwy gwydn, yn arbennig drwy gynhyrchu cynlluniau argyfwng cymunedol. Drwy ddod yn fwy gwydn, gall unigolion a chymunedau ategu gwaith ymatebwyr lleol a lleihau effaith yr argyfwng yn y byr dymor a’r hirdymor.