Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Awdurdodau Lleol, gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill ffurfio Fforymau Lleol Cymru Gydnerth (yn seiliedig ar ardaloedd heddluoedd) i gynllunio ar y cyd ar gyfer argyfyngau, ymateb iddyn nhw ac adfer ar eu hôl.
Mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn bartneriaethau aml-asiantaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o ymatebwyr categori 1. Caiff Fforymau Lleol Cymru Gydnerth eu cefnogi gan ymatebwyr categori 2 ac maen nhw hefyd yn gweithio gyda’r sectorau milwrol a gwirfoddol. Mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn anelu at gynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau lleol ac argyfyngau trychinebus. Maen nhw’n gweithio i nodi risgiau posib ac yn creu cynlluniau brys i naill ai atal neu liniaru effaith unrhyw ddigwyddiad ar eu cymunedau lleol.
Serch hynny, bydd datblygu'r gallu i helpu ei gilydd ar lefel leol o gymorth os bydd y gwasanaethau brys yn cael eu gorlethu yn yr ymateb cychwynnol. Gallai hefyd leihau effaith yr argyfwng ar y gymuned.
Mae Fforwm Cydnerth Lleol Dyfed Powys yn cwmpasu siroedd Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys sy’n cadeirio’r prif grŵp. Mae amrywiaeth o grwpiau ac is-grwpiau yn adrodd i Fforwm Cydnerth Lleol Dyfed Powys a sefydlwyd i ymgymryd â gweithgareddau penodol. Caiff swyddogion o'r Awdurdodau Lleol eu cynrychioli ar bob un o'r grwpiau. Nid yw Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn gyrff statudol.
Asesiad Risg – Cofrestr Risgiau Cymunedol
Mae ymatebwyr Categori 1 a 2 wedi cynhyrchu cofrestr risgiau cymunedol sy'n cwmpasu ardal Dyfed Powys. Mae'r gofrestr yn rhestr o risgiau a allai achosi argyfwng yn ardal Dyfed Powys. Nid yw cynnwys risg ar gofrestr risg gymunedol yn golygu y bydd yn digwydd. Mae'n golygu ei fod yn cael ei gydnabod fel posibilrwydd a bod sefydliadau wedi gwneud trefniadau i gynllunio ar gyfer ymateb i'r digwyddiad ac i leihau ei effaith. Mae asesiadau risg Dyfed Powys yn cael eu diweddaru’n flynyddol, neu yn ôl yr angen os yn gynt, ac yn ystyried y ddau ganllaw cenedlaethol ynghyd â gwybodaeth ac arbenigedd lleol ar draws ein hardal. Yna rhoddir y wybodaeth hon i bartneriaid proffesiynol Fforwm Lleol Cymru Gydnerth i asesu, trafod a gweithredu er mwyn gwella ein gallu i ymateb i unrhyw fath o sialens sy’n tarfu.
Mae’r risgiau allweddol yn cynnwys:
Ffliw Pandemig
Llifogydd
Tywydd Garw
Colli seilwaith
Llygredd
Clefyd anifeiliaid
Digwyddiadau diwydiannol
Digwyddiadau trafnidiaeth
Cynllunio at Argyfyngau
Mae cynllunio at argyfyngau yn broses aml-asiantaeth gynhwysfawr i adnabod ac asesu risgiau perthnasol, i gynllunio a pharatoi, i hyfforddi ac ymarfer, i liniaru'r effeithiau ac ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau, pan fyddan nhw’n digwydd. Ymgymerir â chynllunio ar gyfer argyfwng ar lefel sirol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cynhyrchir cynlluniau ymateb brys ar lefel fforymau lleol Cymru gydnerth a phob asiantaeth i ddisgrifio trefniadau i ymateb i argyfyngau a/neu risgiau penodol fel yr amlinellir yn y gofrestr risgiau cymunedol. Mae swyddogion yn cael eu hyfforddi yng nghynnwys y cynlluniau a threfnir cyfres o ymarferion (aml-asiantaeth ac asiantaethau unigol) yn rheolaidd i brofi'r ymateb. Yn dilyn hyfforddiant, ymarferion a digwyddiadau, caiff cynlluniau eu hadolygu yn seiliedig ar adborth a gwersi a ddysgwyd er mwyn sicrhau bod yr ymateb i argyfyngau yn y dyfodol yn fwy effeithiol.
Parhad busnes
Mae parhad busnes yn ymwneud â chynllunio i liniaru effeithiau amhariad posib ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel y gellir parhau i’w darparu yn ystod argyfwng. Mae gan ymatebwyr Categori 1 ddyletswydd gyfreithiol i roi trefniadau parhad busnes ar waith ar gyfer eu sefydliad, gan rannu arfer gorau. Beth bynnag fo’r digwyddiad, dylai’r awdurdod lleol ymdrechu i’r graddau y mae’n rhesymol i “fusnes fel arfer” wrth ddarparu gwasanaethau a nodir yn ei Gynllun Parhad Busnes. Mae hyn hefyd yn cynnwys sicrhau bod cyflenwyr hanfodol yn dal i allu cyflenwi mewn argyfwng.
Rhybuddio a Llywio
Mae trefniadau yn eu lle ar sail aml-asiantaeth ac o fewn pob sefydliad i rybuddio, llywio a chynghori'r cyhoedd cyn ac yn ystod argyfwng. Mae dogfennau a dolenni wedi’u gosod ar wefannau awdurdodau lleol sy’n rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am gynllunio a pharodrwydd at argyfwng. Yn ystod digwyddiad, bydd yr awdurdod lleol yn gweithio gyda phartneriaid aml-asiantaeth perthnasol i sicrhau bod neges gyffredin yn cael ei lledaenu i'r cyhoedd a'r cyfryngau o ran yr ymateb a'i effaith. Bydd gan Aelodau Etholedig rôl i'w chwarae drwy weithredu fel cyswllt rhwng eu cymunedau a'r cyngor.
Cadernid Cymunedol
Yn ogystal â dyletswyddau statudol ffurfiol, ceir cydnabyddiaeth gynyddol bod angen i ymatebwyr (awdurdodau lleol yn arbennig) ddefnyddio adnoddau a galluoedd eu cymunedau fel rhan o’r broses o baratoi ac ymateb i argyfwng. Caiff ei alw’n gadernid cymunedol a gellir ei ddiffinio fel “cymunedau ac unigolion sy’n harneisio adnoddau ac arbenigedd i helpu eu hunain i baratoi ar gyfer argyfyngau, ymateb iddyn nhw ac adfer, mewn ffordd sy’n ategu gwaith yr ymatebwyr brys”. Gall Aelodau Etholedig chwarae rôl allweddol wrth annog cymunedau i ddod yn fwy gwydn, yn arbennig drwy gynhyrchu cynlluniau argyfwng cymunedol. Drwy ddod yn fwy gwydn, gall unigolion a chymunedau ategu gwaith ymatebwyr lleol a lleihau effaith yr argyfwng yn y byr dymor a’r hirdymor.
Ar ôl nifer o argyfyngau ar raddfa fawr, cynhaliodd y llywodraeth adolygiad o gynllunio at argyfyngau yng Nghymru a Lloegr. Canlyniad hynny oedd Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, sy'n rhoi dull cyson a chadarn o ran cynllunio, ymateb ac adferiad brys yn y DU.
Gosododd y Ddeddf ddyletswyddau a chyfrifoldebau newydd ar sefydliadau, ac mae wedi’i rhannu’n ddwy ran:
Rhan 1: yn ymwneud â threfniadau lleol sy’n rhoi dyletswyddau statudol ar y sefydliadau hynny sydd â chyfrifoldebau am ymateb i argyfyngau o bwys sy’n effeithio ar gymunedau.
Rhan 2: yn cwmpasu pwerau brys y gellir eu defnyddio gan lywodraeth ganolog.
Mae’r Ddeddf yn rhannu ymatebwyr i argyfwng i ddau gategori, yn dibynnu ar faint eu rôl yn y gwaith amddiffyn sifil ac yn gosod cyfres o ddyletswyddau ar bob un.
Ymatebwyr Categori 1
Dyma’r sefydliadau sydd wrth wraidd ymateb i argyfwng:
Mae’r ymatebwyr ‘Categori 1’ hyn yn ddarostyngedig i chwe dyletswydd:
Ymatebwyr Categori 2
Mae’r rhain yn sefydliadau a allai, er nad ydyn nhw’n ymatebwyr ‘sylfaenol’, fod â rôl arwyddocaol a chael rhan fawr mewn digwyddiadau sy’n effeithio ar eu sector, sef:
Mae gan ymatebwyr Categori 2 ddyletswyddau statudol i gydweithio a rhannu gwybodaeth gydag ymatebwyr Categori 1 wrth gynllunio ac ymateb i argyfyngau o bwys.
ROLAU A CHYFRIFOLDEBAU
Ymdrinnir â phob argyfwng o bwys gan y Gwasanaethau Brys, Awdurdodau Lleol, Asiantaethau Iechyd, Cwmnïau Cyfleustodau ac Asiantaethau Gwirfoddol drwy ymateb ar y cyd.
Nid oes unrhyw gyfrifoldeb statudol ar grwpiau cymunedol, fel cynghorau tref neu blwyf, i gynllunio ar gyfer argyfyngau yn eu hardal leol, neu ymateb iddyn nhw. Serch hynny, mae’n arfer da i gymunedau adnabod y peryglon ac i wneud cynlluniau syml o ran sut gallan nhw gynorthwyo'r asiantaethau pe bai argyfwng yn digwydd.
Dylid cydnabod hefyd nad yw Grwpiau Cymunedol yn wasanaeth brys. Ni fyddan nhw’n cael eu hyfforddi, eu harfogi, eu grymuso na rhoi adnoddau iddyn nhw i gyflawni swyddogaethau gwasanaeth brys.
Yn gyffredinol, dylid cyfyngu'r ymateb i ofalu am les pobl yn y gymuned neu helpu i gynnal y seilwaith.
Mae yna nifer o beryglon a risgiau a all gael effaith ar gymuned, fel tân, tywydd garw, llifogydd, damweiniau diwydiannol, damweiniau trafnidiaeth, pandemig ffliw ac ati.
Mae Cyngor Sir Powys yn Ymatebwr Categori 1 hynod arwyddocaol ac mae ganddo rôl allweddol wrth gynllunio ar gyfer argyfwng neu ddigwyddiad o bwys, ymateb iddo ac adfer ohono.
Mae ymateb Cyngor Sir Powys i argyfwng wedi’i amlinellu yn ei Gynllun Digwyddiadau o Bwys.
Gellir crynhoi’r egwyddorion sy’n diffinio argyfwng o ran y Ddeddf fel a ganlyn:
Mae prif bryderon yr awdurdod lleol yng nghamau cynnar argyfwng yn cynnwys, cymorth i’r gwasanaethau brys, cymorth a gofal i’r gymuned leol ac ehangach a chydlynu’r ymateb gan sefydliadau heblaw’r ymatebwyr brys, e.e. y sector gwirfoddol. Wrth i amser fynd yn ei flaen, ac wrth i'r pwyslais newid tuag at adfer a dychwelyd i normalrwydd, bydd yr awdurdod lleol yn cymryd yr awenau wrth gydlynu rheolaeth aml-asiantaeth o’r effeithiau ar bobl leol, yr economi, yr amgylchedd a’r seilwaith.
Swyddogaethau allweddol
Swyddogaethau allweddol y Cyngor Sir yn ystod digwyddiad yw:
Adnabod pobl fregus
Fel rhan o’r ymateb aml-asiantaeth i’r digwyddiad, bydd yr awdurdod lleol yn adnabod pobl fregus hysbys yn yr ardal sy’n cael ei heffeithio. Byddan nhw hefyd yn dibynnu ar y gymuned i helpu i adnabod pobl fregus, y rhai a oedd eisoes yn fregus a’r rhai a ddaeth yn fregus yn sgil y digwyddiad. Bydd dull aml-asiantaeth yn cael ei fabwysiadu i gefnogi pobl fregus, hen a newydd, yn dilyn argyfwng.
Rôl Adran Cynllunio at Argyfyngau y Cyngor
Mae gan Gyngor Sir Powys Adran Cynllunio at Argyfyngau, sy’n gyfrifol am gydlynu ymateb y Cyngor i argyfwng.
Mae’r Adran Cynllunio at Argyfyngau yn cydlynu'r gwaith cynllunio a pharatoi, yr hyfforddiant a'r ymarferion ar gyfer argyfyngau. Bydd yn rheoli unrhyw argyfyngau llai, gan alw ar wasanaethau personél ac adnoddau perthnasol y Cyngor, lle bo'n briodol.
Mae’r Adran Cynllunio at Argyfyngau yn cydweithio'n agos â'r gwasanaethau brys, iechyd, asiantaethau eraill y llywodraeth, awdurdodau cyfagos, grwpiau gwirfoddol ac eraill, i sicrhau bod yr ymateb i argyfwng o bwys yn cael ei gydlynu rhwng yr holl asiantaethau dan sylw.
Mae’r Adran Cynllunio at Argyfyngau yn darparu Swyddog Cynllunio Argyfyngau ar Ddyletswydd 24-awr, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y gwasanaethau brys pryd bynnag y bydd angen cymorth arnyn nhw.
Rolau meysydd gwasanaethau penodol yr awdurdodau lleol
Mae gan bob maes gwasanaeth ei faes gweithgaredd arbenigol ei hun, y gellir galw arno i weithredu neu beidio pe bai argyfwng. Amlinellir y rhain yn fanylach yng Nghynllun Digwyddiadau o Bwys Cyngor Sir Powys.
Mae gan y rhan fwyaf o adrannau a gwasanaethau swyddogion “cyswllt brys” penodedig sy'n gweithio gyda'r Adran Cynllunio at Argyfyngau i baratoi ar gyfer digwyddiadau ac ymateb iddyn nhw. Bydd gweithdrefnau adrannol ar gyfer delio ag argyfyngau yn cael eu rhoi ar waith gan bob gwasanaeth perthnasol.
Y Ganolfan Orffwys mewn Argyfwng
Tra bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadw cyfrifoldeb cyffredinol am weithredu Canolfan Orffwys mewn Argyfwng, gwasanaeth ‘o fewn oriau’ yw hwn gan fwyaf, gyda gwasanaethau’n cael eu cynnig gan amrywiaeth o asiantaethau a gomisiynir. Mae COVID 19 a’r angen am Wasanaethau Cymdeithasol i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, wedi rhoi’r gwasanaeth hwn dan bwysau aruthrol, ac mae’n debygol y bydd gweithredu unrhyw ganolfan orffwys yn gyfuniad o adnoddau i raddau helaeth, gan gynnwys y sector gwirfoddol ar lefel leol. Mae hyn yn annhebygol o newid hyd y gellir rhagweld.
Yn Llangatwg, bydd Eglwys Sant Catwg yn cael ei hagor fel llety dros dro i’r rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi. Mae lle yno i greu canolfan orffwys a chyfleusterau cegin. Mae gwelyau plygu a blancedi ar gael.
You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails. For information about our privacy practices, please visit our website.
We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.