Mae Cyngor Sir Powys yn Ymatebwr Categori 1 hynod arwyddocaol ac mae ganddo rôl allweddol wrth gynllunio ar gyfer argyfwng neu ddigwyddiad o bwys, ymateb iddo ac adfer ohono.
Mae ymateb Cyngor Sir Powys i argyfwng wedi’i amlinellu yn ei Gynllun Digwyddiadau o Bwys.
Gellir crynhoi’r egwyddorion sy’n diffinio argyfwng o ran y Ddeddf fel a ganlyn:
- lle mae mwy nag un o adrannau'r cyngor yn ymwneud â'r ymateb;
- lle mae angen adnoddau sylweddol i ymateb yn effeithiol;
- lle terfir yn benodol ar wasanaeth cyhoeddus;
- lle mae angen ymateb y tu hwnt i arferion gwaith o ddydd i ddydd.
Mae prif bryderon yr awdurdod lleol yng nghamau cynnar argyfwng yn cynnwys, cymorth i’r gwasanaethau brys, cymorth a gofal i’r gymuned leol ac ehangach a chydlynu’r ymateb gan sefydliadau heblaw’r ymatebwyr brys, e.e. y sector gwirfoddol. Wrth i amser fynd yn ei flaen, ac wrth i'r pwyslais newid tuag at adfer a dychwelyd i normalrwydd, bydd yr awdurdod lleol yn cymryd yr awenau wrth gydlynu rheolaeth aml-asiantaeth o’r effeithiau ar bobl leol, yr economi, yr amgylchedd a’r seilwaith.
Swyddogaethau allweddol
Swyddogaethau allweddol y Cyngor Sir yn ystod digwyddiad yw:
- Darparu cymorth i'r gwasanaethau brys
- Adnabod y boblogaeth fregus a darparu cymorth
- Cludo’r rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi a lloches dros dro drwy sefydlu Canolfannau Gorffwys
- Gofal a chwnsela a chymorth lles
- Canolfannau Cymorth Dyngarol ar gyfer digwyddiadau hirdymor
- Rhybudd a Llywio gan gynnwys sefydlu llinell gymorth
- Darparu offer, deunyddiau, personél, arbenigedd
- Cau ffyrdd ac arwyddion
- Asesu, cynnal a chadw a dymchwel adeiladau
- Darparu cyfleusterau marwdy dros dro
- Darparu cyngor: Amgylcheddol, Iechyd a Diogelwch, diogelwch bwyd, adeiladau peryglus
Adnabod pobl fregus
Fel rhan o’r ymateb aml-asiantaeth i’r digwyddiad, bydd yr awdurdod lleol yn adnabod pobl fregus hysbys yn yr ardal sy’n cael ei heffeithio. Byddan nhw hefyd yn dibynnu ar y gymuned i helpu i adnabod pobl fregus, y rhai a oedd eisoes yn fregus a’r rhai a ddaeth yn fregus yn sgil y digwyddiad. Bydd dull aml-asiantaeth yn cael ei fabwysiadu i gefnogi pobl fregus, hen a newydd, yn dilyn argyfwng.
Rôl Adran Cynllunio at Argyfyngau y Cyngor
Mae gan Gyngor Sir Powys Adran Cynllunio at Argyfyngau, sy’n gyfrifol am gydlynu ymateb y Cyngor i argyfwng.
Mae’r Adran Cynllunio at Argyfyngau yn cydlynu'r gwaith cynllunio a pharatoi, yr hyfforddiant a'r ymarferion ar gyfer argyfyngau. Bydd yn rheoli unrhyw argyfyngau llai, gan alw ar wasanaethau personél ac adnoddau perthnasol y Cyngor, lle bo'n briodol.
Mae’r Adran Cynllunio at Argyfyngau yn cydweithio'n agos â'r gwasanaethau brys, iechyd, asiantaethau eraill y llywodraeth, awdurdodau cyfagos, grwpiau gwirfoddol ac eraill, i sicrhau bod yr ymateb i argyfwng o bwys yn cael ei gydlynu rhwng yr holl asiantaethau dan sylw.
Mae’r Adran Cynllunio at Argyfyngau yn darparu Swyddog Cynllunio Argyfyngau ar Ddyletswydd 24-awr, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y gwasanaethau brys pryd bynnag y bydd angen cymorth arnyn nhw.
Rolau meysydd gwasanaethau penodol yr awdurdodau lleol
Mae gan bob maes gwasanaeth ei faes gweithgaredd arbenigol ei hun, y gellir galw arno i weithredu neu beidio pe bai argyfwng. Amlinellir y rhain yn fanylach yng Nghynllun Digwyddiadau o Bwys Cyngor Sir Powys.
Mae gan y rhan fwyaf o adrannau a gwasanaethau swyddogion “cyswllt brys” penodedig sy'n gweithio gyda'r Adran Cynllunio at Argyfyngau i baratoi ar gyfer digwyddiadau ac ymateb iddyn nhw. Bydd gweithdrefnau adrannol ar gyfer delio ag argyfyngau yn cael eu rhoi ar waith gan bob gwasanaeth perthnasol.