Mae Cyngor Cymuned Llangatwg yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi derbyn £49,999 tuag at y gost o adeiladu llwybr sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o amgylch y Maes Hamdden. Bydd y dyfarniad, gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, yn caniatáu iddo gymryd cam mawr arall tuag at wneud y parc yn hygyrch i bobl o bob oed a gallu.
Mae creu llwybr o amgylch y parc wedi bod ar frig arolygon cymunedol ers 2016. Cafodd y cais ei gefnogi gan ddwsinau o lythyrau o gefnogaeth gan drigolion a grwpiau cymunedol yn Llangatwg a thu hwnt. Mae Cyngor Cymuned Llangatwg yn estyn ei ddiolchgarwch iddyn nhw ac i CGGC, a weinyddodd y wobr, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol i gyflawni'r prosiect.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y llwybr yn cysylltu pob rhan o'r Maes Hamdden gyda'i gilydd ac yn ei gwneud hi'n haws i bawb ei ddefnyddio. Bydd y gwaith yn dechrau'r haf yma!