Yn ddiweddar, derbyniodd Gweithgor Amgylchedd Cyngor Cymuned Llangatwg wobr o £3,900 gan y Loteri Genedlaethol trwy’r rhaglen “Gyda’n gilydd ar gyfer Ein Planed”.
Mae’r arian i'w wario ar amrywiaeth o brosiectau i godi ymwybyddiaeth o faterion hinsawdd.
Mae’r cynlluniau hyd yn hyn yn cynnwys:-
1) Ychwanegiadau dwyieithog i’n gwefan bresennol i greu adran “Y Llangatwg Werdd” newydd, sy’n amlygu mentrau lleol presennol a hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy o fyw a lleihau allyriadau.
2) Hyfforddiant un Cynghorydd fel person Diogelu Dynodedig.
3) Sefydlu Cofrestr Gwydnwch ar gyfer y Gymuned i baratoi ar gyfer digwyddiadau tywydd garw a argyfyngau eraill.
4) Codi ymwybyddiaeth o faterion newid hinsawdd byd-eang trwy ffilmiau a chyflwyniadau yn yr ardal.
5) Treialu gweithdy Atgyweirio ochr yn ochr â gweithdai eraill a hyrwyddo cynaliadwyedd ac atgyweirio.
Os oes gennych chi sgiliau atgyweirio a hoffech chi helpu eich cymuned i ddod yn fwy cynaliadwy, neu os ydych chi wedi cofrestru fel profwr PAT, bydden ni wrth ein bodd i glywed oddi wrthoch chi!
Hefyd os oes gennych chi unrhyw syniadau gwych ar gyfer gweithdai neu ffilmiau, neu os hoffech chi gymryd rhan yn y gweithgor, cysylltwch â Kate Inglis ar: kateinglis65@gmail.com