Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Awdurdodau Lleol, gwasanaethau brys ac ymatebwyr eraill ffurfio Fforymau Lleol Cymru Gydnerth (yn seiliedig ar ardaloedd heddluoedd) i gynllunio ar y cyd ar gyfer argyfyngau, ymateb iddyn nhw ac adfer ar eu hôl.

Mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn bartneriaethau aml-asiantaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o ymatebwyr categori 1. Caiff Fforymau Lleol Cymru Gydnerth eu cefnogi gan ymatebwyr categori 2 ac maen nhw hefyd yn gweithio gyda’r sectorau milwrol a gwirfoddol. Mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn anelu at gynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau lleol ac argyfyngau trychinebus. Maen nhw’n gweithio i nodi risgiau posib ac yn creu cynlluniau brys i naill ai atal neu liniaru effaith unrhyw ddigwyddiad ar eu cymunedau lleol.

Serch hynny, bydd datblygu'r gallu i helpu ei gilydd ar lefel leol o gymorth os bydd y gwasanaethau brys yn cael eu gorlethu yn yr ymateb cychwynnol. Gallai hefyd leihau effaith yr argyfwng ar y gymuned.

Mae Fforwm Cydnerth Lleol Dyfed Powys yn cwmpasu siroedd Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys sy’n cadeirio’r prif grŵp. Mae amrywiaeth o grwpiau ac is-grwpiau yn adrodd i Fforwm Cydnerth Lleol Dyfed Powys a sefydlwyd i ymgymryd â gweithgareddau penodol. Caiff swyddogion o'r Awdurdodau Lleol eu cynrychioli ar bob un o'r grwpiau. Nid yw Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn gyrff statudol.

Asesiad Risg – Cofrestr Risgiau Cymunedol

Mae ymatebwyr Categori 1 a 2 wedi cynhyrchu cofrestr risgiau cymunedol sy'n cwmpasu ardal Dyfed Powys. Mae'r gofrestr yn rhestr o risgiau a allai achosi argyfwng yn ardal Dyfed Powys. Nid yw cynnwys risg ar gofrestr risg gymunedol yn golygu y bydd yn digwydd. Mae'n golygu ei fod yn cael ei gydnabod fel posibilrwydd a bod  sefydliadau wedi gwneud trefniadau i gynllunio ar gyfer ymateb i'r digwyddiad ac i leihau ei effaith. Mae asesiadau risg Dyfed Powys yn cael eu diweddaru’n flynyddol, neu yn ôl yr angen os yn gynt, ac yn ystyried y ddau ganllaw cenedlaethol ynghyd â gwybodaeth ac arbenigedd lleol ar draws ein hardal. Yna rhoddir y wybodaeth hon i bartneriaid proffesiynol Fforwm Lleol Cymru Gydnerth i asesu, trafod a gweithredu er mwyn gwella ein gallu i ymateb i unrhyw fath o sialens sy’n tarfu.

Mae’r risgiau allweddol yn cynnwys:

Ffliw Pandemig

Llifogydd

Tywydd Garw

Colli seilwaith

Llygredd

Clefyd anifeiliaid

Digwyddiadau diwydiannol

Digwyddiadau trafnidiaeth

 

Cynllunio at Argyfyngau

 Mae cynllunio at argyfyngau yn broses aml-asiantaeth gynhwysfawr i adnabod ac asesu risgiau perthnasol, i gynllunio a pharatoi, i hyfforddi ac ymarfer, i liniaru'r effeithiau ac ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau, pan fyddan nhw’n digwydd. Ymgymerir â chynllunio ar gyfer argyfwng ar lefel sirol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cynhyrchir cynlluniau ymateb brys ar lefel fforymau lleol Cymru gydnerth a phob asiantaeth i ddisgrifio trefniadau i ymateb i argyfyngau a/neu risgiau penodol fel yr amlinellir yn y gofrestr risgiau cymunedol. Mae swyddogion yn cael eu hyfforddi yng nghynnwys y cynlluniau a threfnir cyfres o ymarferion (aml-asiantaeth ac asiantaethau unigol) yn rheolaidd i brofi'r ymateb. Yn dilyn hyfforddiant, ymarferion a digwyddiadau, caiff cynlluniau eu hadolygu yn seiliedig ar adborth a gwersi a ddysgwyd er mwyn sicrhau bod yr ymateb i argyfyngau yn y dyfodol yn fwy effeithiol.

Parhad busnes

 Mae parhad busnes yn ymwneud â chynllunio i liniaru effeithiau amhariad posib ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, fel y gellir parhau i’w darparu yn ystod argyfwng. Mae gan ymatebwyr Categori 1 ddyletswydd gyfreithiol i roi trefniadau parhad busnes ar waith ar gyfer eu sefydliad, gan rannu arfer gorau. Beth bynnag fo’r digwyddiad, dylai’r awdurdod lleol ymdrechu i’r graddau y mae’n rhesymol i “fusnes fel arfer” wrth ddarparu gwasanaethau a nodir yn ei Gynllun Parhad Busnes. Mae hyn hefyd yn cynnwys sicrhau bod cyflenwyr hanfodol yn dal i allu cyflenwi mewn argyfwng.

Rhybuddio a Llywio

 Mae trefniadau yn eu lle ar sail aml-asiantaeth ac o fewn pob sefydliad i rybuddio, llywio a chynghori'r cyhoedd cyn ac yn ystod argyfwng. Mae dogfennau a dolenni wedi’u gosod ar wefannau awdurdodau lleol sy’n rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd am gynllunio a pharodrwydd at argyfwng. Yn ystod digwyddiad, bydd yr awdurdod lleol yn gweithio gyda phartneriaid aml-asiantaeth perthnasol i sicrhau bod neges gyffredin yn cael ei lledaenu i'r cyhoedd a'r cyfryngau o ran  yr ymateb a'i effaith. Bydd gan Aelodau Etholedig rôl i'w chwarae drwy weithredu fel cyswllt rhwng eu cymunedau a'r cyngor.

Cadernid Cymunedol

Yn ogystal â dyletswyddau statudol ffurfiol, ceir cydnabyddiaeth gynyddol bod angen i ymatebwyr (awdurdodau lleol yn arbennig) ddefnyddio adnoddau a galluoedd eu cymunedau fel rhan o’r broses o baratoi ac ymateb i argyfwng. Caiff ei alw’n gadernid cymunedol a gellir ei ddiffinio fel “cymunedau ac unigolion sy’n harneisio adnoddau ac arbenigedd i helpu eu hunain i baratoi ar gyfer argyfyngau, ymateb iddyn nhw ac adfer, mewn ffordd sy’n ategu gwaith yr ymatebwyr brys”.  Gall Aelodau Etholedig chwarae rôl allweddol wrth annog cymunedau i ddod yn fwy gwydn, yn arbennig drwy gynhyrchu cynlluniau argyfwng cymunedol. Drwy ddod yn fwy gwydn, gall unigolion a chymunedau ategu gwaith ymatebwyr lleol a lleihau effaith yr argyfwng yn y byr dymor a’r hirdymor.

Llun: Lewis Chatfield

 

DEDDF ARGYFYNGAU SIFIL POSIBL

Ar ôl nifer o argyfyngau ar raddfa fawr, cynhaliodd y llywodraeth adolygiad o gynllunio at argyfyngau yng Nghymru a Lloegr. Canlyniad hynny oedd Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, sy'n rhoi dull cyson a chadarn o ran cynllunio, ymateb ac adferiad brys yn y DU.

Gosododd y Ddeddf ddyletswyddau a chyfrifoldebau newydd ar sefydliadau, ac mae wedi’i rhannu’n ddwy ran:

Rhan 1: yn ymwneud â threfniadau lleol sy’n rhoi dyletswyddau statudol ar y sefydliadau hynny sydd â chyfrifoldebau am ymateb i argyfyngau o bwys sy’n effeithio ar gymunedau.

Rhan 2: yn cwmpasu pwerau brys y gellir eu defnyddio gan lywodraeth ganolog.

Mae’r Ddeddf yn rhannu ymatebwyr i argyfwng i ddau gategori, yn dibynnu ar faint eu rôl yn y gwaith amddiffyn sifil ac yn gosod cyfres o ddyletswyddau ar bob un.

Ymatebwyr Categori 1

Dyma’r sefydliadau sydd wrth wraidd ymateb i argyfwng:

  • Awdurdodau lleol
  • Yr heddlu (gan gynnwys yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig)
  • Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
  • Byrddau Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau

Mae’r ymatebwyr ‘Categori 1’ hyn yn ddarostyngedig i chwe dyletswydd:

  • Cynnal asesiad risg a chyfrannu at ddatblygiad cofrestr risgiau cymunedol.
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau, gan gynnwys hyfforddiant ac ymarferion. Sicrhau bod trefniadau parhad busnes cadarn ar waith i gynnal y gwasanaethau a ddarperir.
  • Sicrhau bod trefniadau ar waith i rybuddio a llywio’r cyhoedd cyn ac yn ystod argyfyngau.
  • Cydweithio ag asiantaethau partner i wella cydlyniad ac effeithlonrwydd.
  • Rhannu gwybodaeth ag asiantaethau partner. Yn ogystal â’r rhain, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol ychwanegol:
  • I hyrwyddo parhad busnes i fusnesau lleol a'r sector gwirfoddol.

Ymatebwyr Categori 2

Mae’r rhain yn sefydliadau a allai, er nad ydyn nhw’n ymatebwyr ‘sylfaenol’, fod â rôl arwyddocaol a chael rhan fawr mewn digwyddiadau sy’n effeithio ar eu sector, sef: 

  • Cyfleustodau (cwmnïau dŵr, dosbarthwyr nwy a thrydan a chwmnïau telathrebu)
  • Trafnidiaeth (gweithredwyr meysydd awyr, gweithredwyr rheilffyrdd, Network Rail, Asiantaeth Briffyrdd)
  • Awdurdodau harbwr
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae gan ymatebwyr Categori 2 ddyletswyddau statudol i gydweithio a rhannu gwybodaeth gydag ymatebwyr Categori 1 wrth gynllunio ac ymateb i argyfyngau o bwys.

ROLAU A CHYFRIFOLDEBAU

Ymdrinnir â phob argyfwng o bwys gan y Gwasanaethau Brys, Awdurdodau Lleol, Asiantaethau Iechyd, Cwmnïau Cyfleustodau ac Asiantaethau Gwirfoddol drwy ymateb ar y cyd.

Nid oes unrhyw gyfrifoldeb statudol ar grwpiau cymunedol, fel cynghorau tref neu blwyf, i gynllunio ar gyfer argyfyngau yn eu hardal leol, neu ymateb iddyn nhw. Serch hynny, mae’n arfer da i gymunedau adnabod y peryglon ac i wneud cynlluniau syml o ran sut gallan nhw gynorthwyo'r asiantaethau pe bai argyfwng yn digwydd.

Dylid cydnabod hefyd nad yw Grwpiau Cymunedol yn wasanaeth brys. Ni fyddan nhw’n cael eu hyfforddi, eu harfogi, eu grymuso na rhoi adnoddau iddyn nhw i gyflawni swyddogaethau gwasanaeth brys.

Yn gyffredinol, dylid cyfyngu'r ymateb i ofalu am les pobl yn y gymuned neu helpu i gynnal y seilwaith.

Mae yna nifer o beryglon a risgiau a all gael effaith ar gymuned, fel tân, tywydd garw, llifogydd, damweiniau diwydiannol, damweiniau trafnidiaeth, pandemig ffliw ac ati.

Photo: Lewis Chatfield

Mae Cyngor Sir Powys yn Ymatebwr Categori 1 hynod arwyddocaol ac mae ganddo rôl allweddol wrth gynllunio ar gyfer argyfwng neu ddigwyddiad o bwys, ymateb iddo ac adfer ohono.

Mae ymateb Cyngor Sir Powys i argyfwng wedi’i amlinellu yn ei Gynllun Digwyddiadau o Bwys.

Gellir crynhoi’r egwyddorion sy’n diffinio argyfwng o ran y Ddeddf fel a ganlyn:

  • lle mae mwy nag un o adrannau'r cyngor yn ymwneud â'r ymateb;
  • lle mae angen adnoddau sylweddol i ymateb yn effeithiol;
  • lle terfir yn benodol ar wasanaeth cyhoeddus;
  • lle mae angen ymateb y tu hwnt i arferion gwaith o ddydd i ddydd.

Mae prif bryderon yr awdurdod lleol yng nghamau cynnar argyfwng yn cynnwys, cymorth i’r gwasanaethau brys, cymorth a gofal i’r gymuned leol ac ehangach a chydlynu’r ymateb gan sefydliadau heblaw’r ymatebwyr brys, e.e. y sector gwirfoddol. Wrth i amser fynd yn ei flaen, ac wrth i'r pwyslais newid tuag at adfer a dychwelyd i normalrwydd, bydd yr awdurdod lleol yn cymryd yr awenau wrth gydlynu rheolaeth aml-asiantaeth o’r effeithiau ar bobl leol, yr economi, yr amgylchedd a’r seilwaith.

Swyddogaethau allweddol

 Swyddogaethau allweddol y Cyngor Sir yn ystod digwyddiad yw: 

  • Darparu cymorth i'r gwasanaethau brys
  • Adnabod y boblogaeth fregus a darparu cymorth
  • Cludo’r rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi a lloches dros dro drwy sefydlu Canolfannau Gorffwys
  • Gofal a chwnsela a chymorth lles
  • Canolfannau Cymorth Dyngarol ar gyfer digwyddiadau hirdymor
  • Rhybudd a Llywio gan gynnwys sefydlu llinell gymorth
  • Darparu offer, deunyddiau, personél, arbenigedd
  • Cau ffyrdd ac arwyddion
  • Asesu, cynnal a chadw a dymchwel adeiladau
  • Darparu cyfleusterau marwdy dros dro
  • Darparu cyngor: Amgylcheddol, Iechyd a Diogelwch, diogelwch bwyd, adeiladau peryglus

Adnabod pobl fregus 

Fel rhan o’r ymateb aml-asiantaeth i’r digwyddiad, bydd yr awdurdod lleol yn adnabod pobl fregus hysbys yn yr ardal sy’n cael ei heffeithio. Byddan nhw hefyd yn dibynnu ar y gymuned i helpu i adnabod pobl fregus, y rhai a oedd eisoes yn fregus a’r rhai a ddaeth yn fregus yn sgil y digwyddiad. Bydd dull aml-asiantaeth yn cael ei fabwysiadu i gefnogi pobl fregus, hen a newydd, yn dilyn argyfwng.

Rôl Adran Cynllunio at Argyfyngau y Cyngor

 Mae gan Gyngor Sir Powys Adran Cynllunio at Argyfyngau, sy’n gyfrifol am gydlynu ymateb y Cyngor i argyfwng.

Mae’r Adran Cynllunio at Argyfyngau yn cydlynu'r gwaith cynllunio a pharatoi, yr hyfforddiant a'r ymarferion ar gyfer argyfyngau. Bydd yn rheoli unrhyw argyfyngau llai, gan alw ar wasanaethau personél ac adnoddau perthnasol y Cyngor, lle bo'n briodol.

Mae’r Adran Cynllunio at Argyfyngau yn cydweithio'n agos â'r gwasanaethau brys, iechyd, asiantaethau eraill y llywodraeth, awdurdodau cyfagos, grwpiau gwirfoddol ac eraill, i sicrhau bod yr ymateb i argyfwng o bwys yn cael ei gydlynu rhwng yr holl asiantaethau dan sylw.

Mae’r Adran Cynllunio at Argyfyngau yn darparu Swyddog Cynllunio Argyfyngau ar Ddyletswydd 24-awr, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y gwasanaethau brys pryd bynnag y bydd angen cymorth arnyn nhw.

Rolau meysydd gwasanaethau penodol yr awdurdodau lleol

 Mae gan bob maes gwasanaeth ei faes gweithgaredd arbenigol ei hun, y gellir galw arno i weithredu neu beidio pe bai argyfwng. Amlinellir y rhain yn fanylach yng Nghynllun Digwyddiadau o Bwys Cyngor Sir Powys.

Mae gan y rhan fwyaf o adrannau a gwasanaethau swyddogion “cyswllt brys” penodedig sy'n gweithio gyda'r Adran Cynllunio at Argyfyngau i baratoi ar gyfer digwyddiadau ac ymateb iddyn nhw. Bydd gweithdrefnau adrannol ar gyfer delio ag argyfyngau yn cael eu rhoi ar waith gan bob gwasanaeth perthnasol.

Y Ganolfan Orffwys mewn Argyfwng 

Tra bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadw cyfrifoldeb cyffredinol am weithredu Canolfan Orffwys mewn Argyfwng, gwasanaeth ‘o fewn oriau’ yw hwn gan fwyaf, gyda gwasanaethau’n cael eu cynnig gan amrywiaeth o asiantaethau a gomisiynir. Mae COVID 19 a’r angen am Wasanaethau Cymdeithasol i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, wedi rhoi’r gwasanaeth hwn dan bwysau aruthrol, ac mae’n debygol y bydd gweithredu unrhyw ganolfan orffwys yn gyfuniad o adnoddau i raddau helaeth, gan gynnwys y sector gwirfoddol ar lefel leol. Mae hyn yn annhebygol o newid hyd y gellir rhagweld.

Yn Llangatwg, bydd Eglwys Sant Catwg yn cael ei hagor fel llety dros dro i’r rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi. Mae lle yno i greu canolfan orffwys a chyfleusterau cegin. Mae gwelyau plygu a blancedi ar gael.

Toriad yn y pŵer

Pan fydd y tywydd yn braf, mae’n hawdd peidio â meddwl am baratoi ar gyfer stormydd. Ond gall meddwl ymlaen llaw roi tawelwch meddwl i chi pan fydd y tywydd yn troi'n fygythiol.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am doriadau yn y pŵer sy’n lleol i chi, a phwy i gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth ewch i:

https://powercuts.nationalgrid.co.uk/

  • Cadwch dortsh wrth law.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio canhwyllau a gwresogyddion paraffin.
  • Cadwch radio wedi’i weindio/batri/ solar yn barod fel y gallwch wrando ar ddiweddariadau radio lleol.
  • Nid yw llawer o ffonau modern, yn enwedig rhai digidol neu ffonau diwifr, yn gweithio pa fydd toriad yn y pŵer.
    Cadwch un analog cyffredin wrth law.
  • Diogelwch offer trydanol sensitif fel cyfrifiaduron gyda phlwg amddiffyn rhag ymchwydd.

Mae gan Western Power Distribution Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth fel eu bod yn ymwybodol o anghenion preswylwyr ac yn gallu eu cynghori yn unol â hynny.

Os oes unrhyw un yn eich cymuned yn fregus, cofrestrwch yn https://www.nationalgrid.co.uk/customers-and-community/priority-services

Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y cwmni pŵer yn gwybod nad oes gennych unrhyw bŵer. Ffoniwch nhw cyn gynted â phosib. Os ydyn nhw’n gwybod am y broblem yn barod, dylen nhw allu dweud wrthych pryd maen nhw’n disgwyl i'ch trydan gael ei adfer. Ffoniwch 105.

 

Rhifau ffôn defnyddiol mewn argyfwng

Rhybuddion Llifogydd0345 9881188
Llinell gymorth Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru 0300 065 3000
Cyngor Sir Powys Tu Allan i Oriau03450 544 847
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru0370 6060699
Heddlu Dyfed Powys101 - Achosion sydd Ddim yn Argyfwng
999 - Gwasanaethau Argyfwng
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru01792 562900
Dŵr Cymru/Welsh Water0800 0520130
Western Power0800 6783105 or 105
British Gas0800 111999
British Telecom0800 800150

Llun: Tim Jones

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n croesawu tywydd poeth, ond pan mae’n boeth iawn, mae yna beryglon iechyd. Mae pobl ifanc iawn, a'r henoed mewn perygl arbennig. Gall tywydd poeth iawn waethygu problemau'r galon ac anadlu.

Mae gan y Swyddfa Dywydd system rybuddio sy’n cyhoeddi rhybuddion os oes ton wres yn debygol. Mae’r cyngor canlynol yn berthnasol i bawb o ran cadw’n oer ac yn gyfforddus a lleihau peryglon iechyd:

  • Cadwch lygad am rybuddion ar y radio, y teledu a chyngor ar gadw'n oer.
  • Ffoniwch neu ewch i ymweld â phobl sy'n llai abl i ofalu amdanyn nhw eu hunain, fel cymdogion, perthnasau a ffrindiau hŷn, a phobl sydd â chyflyrau iechyd neu broblemau symudedd.
  • Caewch y ffenestri a thynnwch y bleindiau pan fydd hi'n boethach y tu allan. Os yw'n ddiogel, agorwch nhw am aer pan fydd yn oerach.
  • Osgowch y gwres: arhoswch allan o’r haul a pheidiwch â mynd allan rhwng 11am a 3pm (rhan boethaf y dydd).
  • Cadwch ystafelloedd yn oer drwy ddefnyddio deunydd adlewyrchol y tu allan i'r ffenestri. Os nad yw hyn yn bosib, defnyddiwch lenni lliw golau a’u cadw ar gau (gall bleindiau metelaidd a llenni tywyll wneud yr ystafell yn boethach).
  • Cymerwch fath neu gawod oer, a sblasio eich hun â dŵr oer.
  • Yfwch ddiodydd oer yn rheolaidd, fel dŵr a sudd ffrwythau. Osgowch te, coffi ac alcohol.
  • Os byddwch yn mynd allan, gwisgwch sbectol haul, het a dillad llac, golau, addas a defnyddiwch eli haul.

 

Cyngor Tymhorol y Swyddfa Dywydd:  https://www.metoffice.gov.uk/weather/warnings-and-advice/seasonal-advice

Cyngor y GIG ar gyfer gorludded gwres a thrawiad gwres : https://www.nhs.uk/conditions/heat-exhaustion-heatstroke/

Cyngor y GIG am eli haul a diogelwch yn yr haul: https://www.nhs.uk/live-well/seasonal-health/sunscreen-and-sun-safety/

AGE UK – sut i gadw’n oer mewn ton wres: https://www.ageuk.org.uk/information-advice/health-wellbeing/mind-body/staying-cool-in-a-heatwave/

Cyngor y Swyddfa Dywydd ar gyfer llosg haul: https://www.metoffice.gov.uk/weather/warnings-and-advice/seasonal-advice/health-wellbeing/uv/sunburn

UV ac Iechyd yr Haul: https://www.metoffice.gov.uk/weather/warnings-and-advice/seasonal-advice/health-wellbeing/uv/uv-and-sun-health 

Sut gall UV effeithio ar eich llygaid: https://www.metoffice.gov.uk/weather/warnings-and-advice/seasonal-advice/health-wellbeing/uv/how-uv-can-affect-your-eyes

RHESTR WIRIO CURO’R GWRES

Bydd y rhestr wirio hon yn eich helpu i nodi a allai cartref fod mewn peryg o orboethi a sut i leihau'r risg hwn.

Er ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at y tywydd poeth, gall cartrefi weithiau orboethi (mynd yn anghyfforddus o boeth). Gall iechyd pawb fod mewn perygl yn ystod cyfnodau o dywydd poeth, ond mae rhai pobl yn arbennig o agored i niwed mewn gwres. Gall cartref poeth waethygu cyflyrau iechyd sy’n bodoli’n barod, a gall fod yn angheuol.

Cartrefi sy’n fwy tebygol o orboethi

Mae cartrefi sydd weithiau yn gallu gorboethi yn ystod tywydd cynhesach yn cynnwys:

  • fflatiau ar y llawr uchaf oherwydd bod gwres yn codi
  • cartrefi sydd â ffenestri'n agor ar un ochr i'r eiddo yn unig, oherwydd bod hyn yn golygu bod llai o awyru drwy'r cartref
  • cartrefi heb fawr o gysgod wrth yr haul naill ai’n allanol, er enghraifft, dim caeadau neu gysgod, neu'n fewnol, er enghraifft, dim llenni neu fleindiau
  • ffenestri mawr sy'n wynebu'r dwyrain, y gorllewin neu'r de nad oes ganddyn nhw gysgod rhag yr haul (er enghraifft caeadau allanol neu lenni a bleindiau mewnol)
  • cartrefi sydd wedi'u lleoli mewn ardal drefol adeiledig ddwys heb fawr o fannau gwyrdd gerllaw, oherwydd gall yr ardaloedd hyn brofi tymereddau poethach fyth
  • gall rhai cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n sylweddol neu gartrefi
    ynni-effeithlon gadw’r gwres i mewn. Mae gwneud cartrefi'n effeithlon o ran ynni yn dod â nifer o fuddion iechyd a manteision eraill, ond mae angen cymryd gofal i osgoi gorboethi yn yr haf
  • cartrefi ag offer effeithlonrwydd isel sy'n rhyddhau gwres gormodol, fel systemau dŵr poeth sydd wedi'u hinswleiddio'n wael
  • cartrefi lle ceir agoriad cyfyngedig ar y ffenestri, er enghraifft, os oes clicied  diogelwch wedi'i osod

Preswylwyr a all fod mewn mwy o berygl o salwch oherwydd gorboethi

Mae nifer o resymau pam gallai rhai pobl fod mewn mwy o beryg o fynd yn sâl mewn tywydd poeth, gan gynnwys:

  • pobl hŷn, yn enwedig 65 oed a throsodd (sylwer newid o’r canllawiau blaenorol, sef 75 oed a hŷn)
  • plant, yn enwedig 5 oed ac o dan 5 oed
  • pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain a/neu wedi'u hynysu'n gymdeithasol
  • pobl â chyflyrau iechyd hirdymor (yn enwedig problemau'r galon ac anadlu)
  • pobl sy’n cymryd meddyginiaethau penodol
  • pobl sydd angen cymorth eraill ar gyfer eu gweithgareddau arferol
  • pobl sy'n cael anhawster addasu eu hymddygiad mewn tywydd cynhesach (er enghraifft, oherwydd dementia, problemau iechyd meddwl neu ddefnyddio alcohol/cyffuriau adloniant)
  • pobl sydd gartref yn ystod rhan boethaf y dydd (er enghraifft, plant bach neu’r rhai  sy'n gweithio gartref)

Pethau y gallwch eu gwneud i baratoi eich cartref ar gyfer tywydd poeth

Rydyn ni’n aml yn cael rhywfaint o rybudd pan fydd cyfnod o dywydd poeth ar y gweill, ac mae wastad yn ddefnyddiol cynllunio ar ei gyfer bob haf. Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i baratoi ac i leihau’r risg y bydd eich cartref yn gorboethi yn ystod tywydd poeth:

  1. Ystyriwch osod bleindiau neu lenni mewnol, neu mae caeadau allanol, bleindiau rholio neu adlenni hefyd yn effeithiol iawn.
  2. Os oes gennych system awyru yn eich cartref, gwiriwch ei bod wedi’i throi ymlaen ac yn gweithredu yn y ‘modd haf’ os oes un.
  3. Gwiriwch fod oergelloedd, rhewgelloedd a gwyntyllau yn gweithio'n iawn, er enghraifft drwy wirio bod eich bwyd yn parhau i fod yn oer neu wedi’i rewi.
  4. Gwnewch yn siŵr y gellir storio meddyginiaethau yn unol â'r cyfarwyddiadau sydd ar y pecyn.
  5. Os ydych yn inswleiddio neu'n adnewyddu eich cartref, gofynnwch i'r gosodwyr am gyngor ynglŷn â lleihau gorboethi.
  6. Gall tyfu planhigion y tu allan roi cysgod, a all fod yn arbennig o ddefnyddiol o flaen ffenestri sy'n wynebu'r de, tra gall planhigion y tu mewn helpu i oeri'r aer.

Pethau y gallwch eu gwneud yn ystod tywydd poeth

Pan fydd tywydd poeth yn cyrraedd, mae yna nifer o gamau cyflym a hawdd y gallwn ni i gyd eu cymryd i leihau gwres yn y cartref:

  1. Os yn bosib, cysgodwch neu orchuddiwch y ffenestri.
  2. Agorwch ffenestri (pan mae'n ddiogel gwneud hynny) pan fydd yr aer yn teimlo'n oerach y tu allan, er enghraifft yn y nos, a cheisiwch gael aer i lifo drwy'r cartref.
  3. Defnyddiwch wyntyllau trydan os yw tymheredd yr aer yn is na 35°C, ond peidiwch ag anelu'r gwyntyll yn uniongyrchol at eich corff oherwydd gall hyn arwain at ddadhydradu.
  4. Gwiriwch fod eich gwres wedi'i ddiffodd.
  5. I leihau'r gwres sy’n cael ei gynhyrchu yn y cartref, diffoddwch y goleuadau a'r offer trydanol nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio, ac ystyriwch goginio ar adegau oerach o'r dydd.
  6. Symudwch i ran oerach o'r tŷ, yn enwedig i gysgu os yn bosib.
  7. Gall fod yn oerach y tu allan yn y cysgod neu mewn adeilad cyhoeddus (fel mannau addoli, llyfrgelloedd lleol, neu archfarchnadoedd) felly ystyriwch ymweld â’r rheini fel ffordd o oeri os gallwch chi deithio yno yn ddiogel heb roi eich hun mewn mwy o risg o'r gwres.

Awgrymiadau gwych i gadw eich anifeiliaid anwes yn ddiogel mewn tywydd poeth

Fel ni, mae ein hanifeiliaid anwes hefyd yn agored i broblemau a salwch sy’n ymwneud â gwres, ac mae gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain awgrymiadau gwych ar sut i gadw ein hanifeiliaid anwes yn ddiogel mewn tywydd poeth:

  • Gwnewch yn siŵr bod pob anifail anwes wastad yn gallu cael dŵr ffres i'w yfed, yn cael digon o aer, a chysgod rhag pelydrau uniongyrchol yr haul.
  • Peidiwch â gwneud ymarfer corff gyda chŵn yn ystod rhannau poethaf y dydd, yn enwedig anifeiliaid anwes hŷn, bridiau sydd â wynebau gwastad neu gŵn sydd â phroblemau hysbys ar y galon neu’r ysgyfaint. Cadwch at deithiau cerdded yn gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y nos.
  • Gwnewch y prawf tarmac pum eiliad cyn mynd â chi am dro; os yw’n teimlo’n rhy boeth i chi, mae’n rhy boeth i bawennau eich ci.
  • Rhewch boteli plastig o ddŵr a’u rhoi yng nghwt eich cwningen i’w helpu i gadw’n oer, ochr yn ochr â digon o ddŵr ffres hefyd. Mae niwlo clustiau cwningod yn ysgafn gyda dŵr oer hefyd yn ffordd effeithiol o helpu i'w hoeri os nad yw hyn yn achosi straen iddyn nhw. Gallwch roi cysgod ychwanegol i foch cwta a chwningod drwy orchuddio top y rhwyll wifrog gyda thywelion llaith.
  • Mae'n bosib y bydd rhai bridiau o gathod a chŵn, yn enwedig y rhai â ffwr ysgafnach neu liw ysgafnach, yn elwa o eli haul sy'n ddiogel i anifeiliaid anwes, yn enwedig ar flaenau eu clustiau, sy'n dueddol o losgi’n yr haul.
  • Meddyliwch am anifeiliaid gwyllt. Cadwch fowlenni o ddŵr allan ar gyfer bywyd gwyllt fel adar a draenogod.
  • Cadwch lygad am arwyddion cynnar o drawiad gwres, fel anadlu'n fyr a chyflym, anesmwythder a diffyg cydsymud.
  • Cysylltwch â milfeddyg ar unwaith os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich anifail anwes.

Photo: Tim Jones

Photo: Gail Jones

Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru:

Ymweliadau Diogel ac Iach

Mae Ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys holl gynnwys y gwiriadau diogelwch tân yn y cartref, ond bydd hefyd yn cynnwys negeseuon diogelwch eraill a allai fod yn berthnasol i'r bobl sy'n byw yn yr adeilad. Bydd y pum prif bwnc ychwanegol yn cwmpasu:

  • Rhoi’r gorau i smygu
  • Diogelwch yn y cartref
  • Atal cwympiadau
  • Ymwybyddiaeth o sgamiau
  • Mynd i'r afael ag unigrwydd a theimlo’n ynysig

Gyda'r potensial i ychwanegu pynciau pellach dros amser.

Mwy o gyngor

Os hoffech fwy o gyngor, ffoniwch ni ar 0800 169 1234 i siarad am y posibilrwydd o Ymweliad  Diogel ac Iach gan weithwyr y Gwasanaeth Tân ac Achub.​​​ Os oes gennych larwm diffygiol a osodwyd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, cysylltwch â 0800 169 1234 am un newydd, neu
e-bostiwch saw@mawwfire.gov.uk.

Mae darpariaeth larymau mwg ac eitemau diogelwch eraill yn y cartref gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael ei chefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru.

Mae eu gwefan yn llawn gwybodaeth wych, gan gynnwys diogelu eich cartref, coginio'n ddiogel, diogelwch canhwyllau, diogelwch trydanol, gwresogyddion cludadwy, nwyddau gwynion, diogelwch Carbon Monocsid, larymau mwg, simneiau a thanau agored a stofiau llosgi coed.

https://www.mawwfire.gov.uk/eng/your-safety/in-your-home/protecting-your-home/

Diogelwch tân ar y Fferm: https://www.mawwfire.gov.uk/eng/your-safety/farm-fire-safety/

Gwefan Llywodraeth Cymru, yn llawn cyngor: https://www.gov.wales/fire-rescue

 

Photo: Gail Jones

TANAU GWYLLT

Effaith
Mae effeithiau tanau gwyllt yn niferus ac yn eang.  Gallan nhw gael effeithiau sylweddol ar yr economi, yr amgylchedd, treftadaeth a gwead cymdeithasol ardaloedd gwledig. Mae costau economaidd yn amrywio o gostau uniongyrchol sy’n gysylltiedig ag adnoddau brys, i golli incwm o’r tir yn dilyn achosion o danau gwyllt a difrod i eiddo. I'r diffoddwyr tân, gall fod yn anodd delio â thanau gwyllt mwy oherwydd y dirwedd a’r hygyrchedd. Weithiau, mae'r tymheredd eithafol a'r pellteroedd teithio hirach yn cario offer yn gwneud amodau gwaith hyd yn oed yn anoddach. Yn aml, gall hyn olygu bod criwiau niferus yn cael eu cadw dros nifer o ddiwrnodau sy'n golygu bod yn rhaid i beiriannau deithio ymhellach i gyrraedd argyfyngau eraill yn yr ardal yr effeithir arni.

Atal tanau bwriadol 

Mae Atal Tanau Bwriadol yn dîm datrys problemau o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i geisio lleihau ac atal tanau rhag cael eu cynnau’n fwriadol. Mae’r tîm yn cynnwys Swyddog yr Heddlu sydd wedi’i secondio, Swyddog Tân a thri ymgynghorydd arbenigol ar danau bwriadol sy'n sicrhau bod pob achos yn cael ei ymchwilio a'i ddadansoddi i wneud ein cymunedau’n fwy diogel. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’i bartneriaid i dargedu meysydd problematig ac i ddatblygu ffyrdd o leihau tanau bwriadol ac i nodi pwy neu beth allai gael eu heffeithio.

Beth a wnawn

Mae’r Tîm Atal Tanau Bwriadol a’r Swyddog Cyswllt Fferm yn gweithio gyda thimau rheoli tir/ Cominwyr / Porwyr i gyflwyno Polisi Tanau Gwyllt – llosgi dan reolaeth (rhwng 1af Hydref a 31ain Mawrth) a chyflwyno cyfnodau atal byr. Rydyn ni’n  cydlynu gyda phartneriaid i gynnal patrolau a gwyliadwriaeth mewn mannau problemus drwy ddefnyddio technoleg fel Cerbydau Awyr Di-griw (UAV) a Theledu Cylch Cyfyng (CCTV) i atal a chanfod troseddau.

Sut olwg sydd ar gynnau tân yn eich cymuned?

Rydyn ni wedi gweld bod tanau bwriadol nid yn unig yn dinistrio cartrefi a bywydau, ond gall ddinistrio'r amgylchedd. Mae lleihau tanau bwriadol yn helpu i ddiogelu’r llefydd rydyn ni’n byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn treulio ein hamser hamdden. Rydyn ni am warchod ein cymunedau rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â chynnau tanau, fel tipio anghyfreithlon, llosgi gwastraff peryglus neu anghyfreithlon a fandaliaeth o fewn ysgolion a cholegau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni hefyd wedi gweld cynnydd yn y bygythiad o danau bwriadol sy’n deillio o gam-drin domestig a thrais yn y cartref, a thrwy ein nodau ar y cyd, byddwn yn ymdrechu i nodi’r digwyddiadau hyn drwy ymwybyddiaeth ehangach o bob un o Bartneriaid y Grŵp Tanau Bwriadol ar y Cyd er mwyn dod â’r troseddwyr hyn o flaen eu gwell, tra ar yr un pryd, sicrhau bod ymateb effeithiol ar waith i gefnogi dioddefwyr trosedd o’r fath. Rydyn ni am sicrhau newid diwylliannol ledled Cymru fel bod cymunedau’n ystyried tanau bwriadol yn annerbyniol yn gymdeithasol a’u bod yn weithredol o ran cadernid cymunedol.

Cyngor Diogelwch i leihau peryglon Tanau Damweiniol

  • Diffoddwch sigaréts a deunydd smygu arall yn iawn - peidiwch â gadael iddyn nhw gynnau tân glaswellt!
  • Defnyddiwch farbeciw mewn mannau addas a diogel yn unig – PEIDIWCH BYTH â'u gadael heb neb i ofalu amdanyn nhw!
  • Pan fyddwch yn cael barbeciw, cadwch fwced o ddŵr neu dywod gerllaw ar gyfer argyfyngau
  • Cliriwch boteli, gwydrau ac unrhyw wydr sydd wedi’i dorri i'w hatal rhag mwyhau’r haul a chynnau tân
  • Eglurwch beryglon chwarae gyda thanau a chynnau tanau i blant
  • Gwaredwch ddeunyddiau smygu fel sigaréts yn ddiogel

I wneud yn siŵr y gallwn ymateb i’ch argyfyngau yn gyflym, rydyn ni angen i chi warchod eich cymuned rhag tanau bwriadol a riportio grwpiau sy’n ymgynnull yn wrthgymdeithasol. Mae cychwyn tân bwriadol yn drosedd a gallech gael cofnod troseddol o ganlyniad i gychwyn tân yn fwriadol.

Gallwch helpu drwy alw’r Heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 os welwch chi unrhyw un yn cynnau tanau’n fwriadol.​

Mae Cynnau Tanau’n Fwriadol yn Drosedd.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Atal Tanau Bwriadol ar  01792 705 130

Os ydych yn dyst i rywun yn dechrau tân glaswellt yn fwriadol, galwch yr Heddlu ar 999 neu’n dod o hyd i dystiolaeth o leoliad tân glaswellt sydd wedi’i gynnau’n  fwriadol, ffoniwch y Tîm Atal Tanau Bwriadol ar 0370 6060 699 neu e-bostiwch arson.reduction@mawwfire.gov.uk

Tywydd Gaeafol

Gall stormydd gaeafol amrywio o eira cymedrol dros ychydig oriau i storm eira sy'n para sawl diwrnod. Mae tymereddau peryglus o isel yn cyd-fynd â nifer o stormydd gaeafol ac weithiau gwyntoedd cryfion, rhew, eirlaw a glaw. Un o’r pryderon mwyaf yw gallu tywydd gaeafol i roi stop ar wasanaethau gwres, pŵer a chyfathrebu, weithiau am ddyddiau ar y tro. Gall eira trwm ac oerfel eithafol atal ardal eang rhag symud.

Mewn senario o dywydd gaeafol, dylai pawb:

 Cadw llygad ar gymdogion neu berthnasau hŷn i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac yn iach. Gwnewch yn siŵr eu bod yn ddigon cynnes, yn enwedig gyda’r nos, a bod ganddyn nhw stoc o fwyd a meddyginiaethau fel nad oes angen iddyn nhw fynd allan yn ystod tywydd oer iawn.

  • Cofiwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am amodau ar y ffyrdd a’r tywydd a rhybuddion am dywydd garw.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich cymuned yn barod ar gyfer y tywydd oer drwy roi gwybod iddyn nhw sut i gadw'n ddiogel y gaeaf hwn. Mae gan www.nhs.uk wybodaeth ddefnyddiol ar sut i GADW'N GYNNES A CHADW'N IACH yn ystod cyfnodau oer.
  • Cliriwch eich car o unrhyw rew neu eira, gwnewch yn siŵr bod eich car yn barod ar gyfer y gaeaf a bod gennych chi becyn argyfwng car.
  • Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas.
  • Anogwch bobl i gael y pigiad ffliw.

Adeiladau

  • Dylech inswleiddio pibellau mewn mannau sydd heb eu gwresogi fel adeiladau allanol, siediau ac ati.
  • Dylid gadael systemau gwresogi a reolir â thermostat ymlaen yn barhaol a'u gosod ar dymheredd isaf.
  • Os na fydd adeilad yn cael ei ddefnyddio dros fisoedd y gaeaf, dylid diffodd y cyflenwadau dŵr a draenio pibellau.
  • Cofiwch drwsio unrhyw dapiau sy'n diferu.
  • Os bydd y system wresogi yn methu neu'n gwneud sŵn curo uchel, gallai hyn fod yn arwydd bod pibell yn rhewi. Trowch y system i ffwrdd a ffoniwch blymwr ar unwaith.

Pibelli wedi’u byrstio 

  • Trowch y cyflenwad dŵr i ffwrdd yn y brif falf stopio.
  • Cysylltwch â pheiriannydd plymio a gwresogi cymeradwy.
  • Os bydd eich pibellau yn rhewi, peidiwch byth â defnyddio fflam noeth i'w dadmer.

Eira ac Iâ

 Dylai’r Cyngor gymryd gofal rhesymol i sicrhau diogelwch y cyhoedd, gweithwyr a gwirfoddolwyr.

Os bydd cynllun clirio yn cael ei weithredu, dylid ei gynnal am y cyfnod cyfan o dywydd garw a dylid cyfathrebu’r cynlluniau ar gyfer rheoli'r broses.

Lle bydd cyngor yn cymryd cyfrifoldeb am glirio eira ac iâ oddi ar lwybrau, dylai gymryd gofal rhesymol wrth wneud hynny. Dylid cymryd gofal wrth benderfynu ble i symud yr eira – gan sicrhau nad yw mynedfeydd, ffyrdd ymyl neu ddraeniau yn cael eu rhwystro.

Ar ôl i’r eira ac iâ gael eu clirio, peidiwch â defnyddio dŵr oherwydd gallai hyn achosi iâ du. Defnyddiwch halen neu raean i drin y rhannau hyn.

Hefyd os yw’r adeilad i’w ddefnyddio dros y gaeaf, mae angen i’r cyngor sicrhau bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o’r adeilad yn ddiogel, sy’n golygu os nad yw’r llwybrau neu feysydd parcio yn cael eu graeanu, yna dylid cau’r adeilad.

 

GWEFANNAU DEFNYDDIOL:

Cyfoeth Naturiol Cymru:

Cyfoeth Naturiol Cymru yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol; rheoli dŵr ac amddiffynfeydd llifogydd yng Nghymru ac ymateb fel ymatebwr argyfwng Categori 1 i ddigwyddiadau amgylcheddol sy’n cael eu riportio.

https://naturalresources.wales/flooding/?lang=en

https://naturalresources.wales/flooding/check-flood-warnings/?lang=en

https://naturalresourceswales.gov.uk/flooding/check-your-flood-risk-on-a-map-flood-risk-assessment-wales-map/?lang=en

Map risg o lifogydd hirdymor:

https://naturalresources.wales/floodriskmap?lang=en

Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion am lifogydd:

https://naturalresources.wales/flooding/sign-up-to-receive-flood-warnings/?lang=en 

Paratoi ar gyfer llifogydd

https://naturalresources.wales/flooding/preparing-for-a-flood/?lang=en

Gwirio lefelau afonydd:

https://rivers-and-seas.naturalresources.wales/?lang=en

Y Swyddfa Dywydd

Mae’r Swyddfa Dywydd yn darparu gwasanaeth meteorolegol cenedlaethol ar gyfer y DU, gan ddarparu gwasanaethau tywydd hollbwysig a gwyddor hinsawdd blaengar, i’ch helpu i wneud penderfyniadau gwell i aros yn ddiogel ac i ffynnu.  Mae’r Swyddfa Dywydd yn darparu system e-bost ar gyfer rhybuddion tywydd garw, a dylid annog pob preswylydd a pherchennog busnes, p’un a yw eu heiddo yn yr ardal sydd mewn perygl o lifogydd neu beidio, i gofrestru:

https://service.govdelivery.com/accounts/UKMETOFFICE/subscriber/new

Rhagolygon y Swyddfa Dywydd:

https://www.metoffice.gov.uk

ARGYFYNGAU SIFIL POSIBL CYNGOR SIR POWYS

Cyngor ar greu cynllun llifogydd:

Emergency.planning@powys.gov.uk

https://en.powys.gov.uk/article/3942/Flooding-alerts-and-advice

Cyfoeth Naturiol Cymru – riportio coed neu falurion sydd wedi disgyn:

0300 065 3000 (24 awr)

https://naturalresources.wales/about-us/contact-us/report-an-incident/?lang=en

 

 

 

 

 

Riportio llifogydd neu ddraeniau wedi’u blocio ym Mhowys:

https://en.powys.gov.uk/article/9784/Report-a-Flood  

Cynllun Wardeiniaid Llifogydd Crughywel a’r pentrefi cyfagos:

crickresponse@gmail.com

CANLLAWIAU PELLACH

Fforwm Llifogydd Cenedlaethol:
nationalfloodforum.org.uk/

Adfer ar ôl llifogydd Llywodraeth y DU: flood-warning-information.service.gov.uk/recovering-after-a-flood

Blue Pages: bluepages.org.uk/

Sut i lanhau eich eiddo yn ddiogel:
assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachmentdata/file/348920/Flooding how to clean up your house safely.pdf

Flood Assist

https://floodassist.co.uk/flood-warnings/flood-area-info/powys

 

ARGYMHELLION DARLLEN

Cyfoeth Naturiol Cymru:
naturalresources.wales/flooding/what-to-do-before-during-and-after-a-flood/?lang=en

Canllaw i berchnogion tai ynglŷn â gwybod am eich perygl o lifogydd: knowyourfloodrisk.co.uk/sites/default/files/FloodGuideForHomeowners.pdf

Fforymau Llifogydd Cenedlaethol “Pwy sy’n gyfrifol am beth”:
nationalfloodforum.org.uk/about-flooding/flood-facts/whos-responsible-for-what/

Photo: Tim Jones

Photo: Tim Jones

Llifogydd – Cynllun Wardeiniaid Llifogydd

Mae Cynghorwyr a gwirfoddolwyr Llangatwg yn gweithio i wneud ein cymuned yn fwy diogel os bydd llifogydd. Mae achosion diweddar o lifogydd difrifol, gan gynnwys Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, wedi dangos yr angen i fod yn barod am lifogydd ac i allu ymateb os yw’r gwaethaf yn digwydd.

Mae’r Cyngor Cymuned wedi sefydlu gweithgor i ymchwilio i'r heriau sy’n wynebu trigolion Llangatwg yn ystod llifogydd, i adnabod yr eiddo sydd fwyaf agored i niwed ac i roi gwybodaeth i berchnogion fel y gallan nhw ddiogelu eu cartrefi. Mae pobl fregus eisoes wedi derbyn ‘pecynnau llifogydd’ Cyngor Sir Powys gyda gwybodaeth ynglŷn â sut i baratoi a phwy i gysylltu mewn argyfwng.

Mae tri aelod o Gyngor Cymuned Llangatwg wedi ymuno â Chynllun Wardeiniaid Llifogydd Crughywel a’r Pentrefi Cyfagos, a sefydlwyd ar ôl Storm Dennis. Mae gwirfoddolwyr wedi ymuno â nhw a fydd yn helpu i rybuddio trigolion, rhoi gwybodaeth a symud celfi rhag niwed os oes angen. Ar adegau eraill, bydd Wardeiniaid Llifogydd yn cadw llygad am beryglon posib, ac yn cysylltu â’r awdurdodau perthnasol os yw dreiniau neu gwlfertau wedi’u blocio gan goed neu falurion sydd wedi disgyn.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am Weithgor Llifogydd Cyngor Cymuned Llangatwg, e-bostiwch llangattockcc@gmail.com.

Gwybodaeth i Breswylwyr a Busnesau

Os ydych mewn perygl neu os ydych yn wynebu argyfwng arall: ffoniwch 999

 Pan fydd risg uchel o lifogydd neu achos o lifogydd yn digwydd, byddwch yn gallu cysylltu â’r wardeiniaid llifogydd ar y rhifau a ddarparwyd, neu byddan nhw mewn cysylltiad â chi.

Neu cysylltwch â’r cynllun wardeiniaid llifogydd drwy swyddfa gwirfoddolwyr CRiC ar 01873 812177 yn ogystal â’r cyfeiriad
e-bost crickresponse@gmail.com unrhyw bryd.

Byddwn hefyd yn postio diweddariadau ynglŷn â llifogydd a’r risg o lifogydd ar dudalen Facebook Crickhowell and Villages Flood Response

Gallwch hefyd ofyn i’ch warden llifogydd os hoffech dderbyn diweddariadau rheolaidd am y risg presennol o lifogydd drwy WhatsApp, e-bost neu neges destun.

Mae wardeiniaid llifogydd yn wirfoddolwyr sydd ar gael i’ch cefnogi i:

  • baratoi am lifogydd
  • ymateb i lifogydd sydd ar fin digwydd
  • gweithredu yn ystod llifogydd
  • adfer ar ôl llifogydd

Nod y cynllun wardeiniaid llifogydd yw sicrhau bod pawb yn eich cartref yn ddiogel a bod unrhyw ddifrod llifogydd i'ch eiddo yn cael ei leihau.

Beth sydd angen i chi ei wneud: 

  • penderfynwch sut rydych am dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y perygl o lifogydd (gallwn ni eich diweddaru chi os gofynnwch i ni wneud hynny)
  • cael cynllun ar gyfer yr hyn y byddwch yn ei wneud os oes perygl o lifogydd a/neu lifogydd go iawn
  • cael cynllun i symud dodrefn neu gael bagiau tywod os oes angen (efallai y gallwn helpu os na allwch chi drefnu hyn eich hun)

GALL wardeiniaid llifogydd:

  • eich helpu i gadw nentydd a chwlfertau wrth ymyl eich cartref yn glir os na allwch chi wneud hynny (ar yr amod nad ydyn nhw’n rhedeg yn gyflym neu'n ddwfn)
  • cysylltu â chi os oes peryg o lifogydd (bydd angen i chi ddweud wrthym eich bod am i ni wneud hynny)
  • cadw mewn cysylltiad â chi yn ystod llifogydd os byddwch yn dweud wrthym eich bod eisiau i ni wneud hynny
  • os byddwch angen mwy o gymorth yn ystod llifogydd
  • rhoi cyngor i chi ble gallwch gael bagiau tywod
  • cludo bagiau tywod hefyd - ond dim ond os nad ydyn nhw’n brysur yn rhywle arall ac os na allwch eu casglu a bod y ffyrdd yn glir
  • rhoi cyngor i chi am eich cynlluniau llifogydd
  • gweithio gyda chi i gadw llygad ar nentydd, cwlfertau, draeniau ac ati a allai achosi llifogydd
  • cefnogi'r awdurdod lleol os ydyn nhw’n cau ffyrdd
  • cefnogi'r awdurdod lleol os ydyn nhw’n agor Canolfan Orffwys yng Nghrughywel (Ysgol Uwchradd) neu Eglwys Llangatwg (Sant Catwg)

NI ALL wardeiniaid llifogydd:

  • Stopio llifogydd
  • Eich achub os ydych mewn peryg  (dylech alw 999)
  • Clirio gylïau a nentydd tra bod eu llif yn llawn oherwydd bod hyn yn beryglus
  • Mynd i mewn i lifddwr

Rhybuddion Llifogydd (Floodline):  0345 9881188

Llinell Gymorth Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru: 0300 065 3000

 

 

Arafu’r Llif a Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Mae Cyngor Cymuned Llangatwg wedi bod yn archwilio’r posibilrwydd o gynnal cynllun Arafu’r Llif ar yr Onneu Fach i ddechrau, ond gellid ei ystyried hefyd ar gyfer nentydd lleol eraill sy'n bwydo’r Afon Wysg. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Powys ac yn aros am newyddion am gyllid ar gyfer y gwaith hwn.

Beth yw Arafu’r Llif?

Mae rheoli llifogydd yn naturiol yn anelu at leihau uchafbwynt dŵr llifogydd i lawr yr afon (brig y llifogydd) neu ohirio brig y llifogydd i lawr yr afon, gan gynyddu'r amser sydd ar gael i baratoi ar gyfer llifogydd. Mae eitemau niferus Arafu’r Llif yn gweithio gyda’i gilydd, gan helpu i leihau cyfradd y llif yn y dyffryn, pan fydd stormydd. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy gyfyngu ar gynnydd dŵr drwy ddalgylch mewn 3 ffordd:

  • Cynyddu ymdreiddiad pridd a chaniatáu i ddŵr suddo.
  • Storio dŵr drwy ddefnyddio nodweddion naturiol fel pyllau, ffosydd neu dir isel neu drwy greu pyllau a mannau newydd i storio dŵr.
  • Arafu dŵr drwy gynyddu ymwrthedd i lif. Er enghraifft, drwy blannu coed ar y gorlifdir neu adeiladu “argaeau sy'n gollwng” mewn sianeli.

 

Beth yw “argae sy'n gollwng”?

Mae argaeau sy'n gollwng yn ffurfio'n naturiol pan fydd darnau mawr o goed yn disgyn i mewn ac ar draws y sianel. Mae'r darnau mawr hyn o bren yn dechrau casglu ffyn llai a dail sy'n caniatáu rhywfaint o ddŵr drwodd, ond sy’n dal rhywfaint o'r dŵr yn y nant yn ôl yn ystod llif uchel.

Gallwn ddynwared natur drwy adeiladu argaeau sy'n gollwng gan ddefnyddio pren o ffynonellau lleol. Gellir pinio'r argaeau sy'n gollwng yn eu lle neu eu cloddio i'r clawdd i sicrhau nad ydyn nhw’n symud o gwmpas mewn llif uchel. Mae adeiladu cyfres o argaeau ar hyd rhan o nant yn cynyddu effeithiolrwydd yr argaeau.

Mae malurion coediog yn helpu i greu pyllau a rhigolau, gan roi amrywiaeth o gynefinoedd ar gyfer pysgod a phryfed dyfrol ac yn denu mamaliaid ac adar. Mae’n bwysig y gall argaeau sy'n gollwng arafu symudiad silt a gwaddod i lawr yr afon. Gall silt gynyddu’r perygl o lifogydd drwy leihau faint o le sydd ar gyfer dŵr mewn sianel.

Math newydd o reoli afonydd: https://www.youtube.com/watch?v=21YAP8RF_sw&t=210s

 

GWEFANNAU DEFNYDDIOL

Elusen Arafu’r Llif yn Calderdale:

https://slowtheflow.net/about-us-2/

Fideo Arafu’r Llif yn Nyffryn Calder ar YouTube:

https://www.youtube.com/watch?v=GUsS-gQFTJc&t=64s

Cynllun Arafu’r Llif yn Pickering:

https://www.forestresearch.gov.uk/research/slowing-the-flow-at-pickering/

Susdrain: Y gymuned ar gyfer draenio cynaliadwy, mwy o wybodaeth a syniadau:

https://www.susdrain.org/delivering-suds/using-suds/suds-principles/suds-principals.html

Yorkshire Water: cyngor ar arbed dŵr:

https://www.yorkshirewater.com/your-water/save-water/

Mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yr Iseldir – canllaw ymarferol i ffermwyr Canllaw manwl i wahanol lefelau o ymyriadau Rheoli Llifogydd yn Naturiol , eu costau a’u buddion:

https://www.ydrt.org.uk/wp-content/uploads/2021/04/DVRN_lowland_NFM.pdf

Dyffrynnoedd Swydd Efrog: Mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol – canllaw ymarferol i ffermwyr. Yn debyg i’r uchod ond gydag enghreifftiau o Reoli Llifogydd yn Naturiol yn yr Ucheldir:

https://www.ydrt.org.uk/wp-content/uploads/2021/04/YDNP-NFM-handbook.pdf

Cynghorau Gorllewin Northampton a Gogledd Northampton: Pecyn Cymorth Llifogydd Adnodd trawiadol o wybodaeth gan Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol  arloesol, gan gynnwys ‘Llyfrgell Llifogydd’ o ddogfennau canllawiau.

https://www.floodtoolkit.com/pdf-library/

 

 

 

A friendly, vibrant, forward-thinking village in the South East corner of the county of Powys. We are surrounded by the stunning scenery of the Brecon Beacons National Park. 
Keep up to date
Please enter your email to receive newsletters and updates from Llangattock Community Council. This also gives us permission to use your contact details to keep in touch. For more information about how we will use this your information, see our terms and conditions at the bottom of this page.

Please select the ways you are happy to hear from Llangattock Community Council:

Click for more information

You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails. For information about our privacy practices, please visit our website.

We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.

Llangattockcc@gmail.com
Follow us on Facebook